Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau ar Faddeuant PERSON sydd mewn angen maddeuant, ac i berson y rhoddir ef; nid i ddigwyddiadau yn ei hanes, nid i weithred o'i eiddo, nid i stad meddwl, neu deimlad calon, neu osgo ewyllys, ond i'r person a'i mynega ei hun yn y cyfryw. Y mae person yn ei fynegi ei hun, ac felly hefyd yn ei syl- weddoli ei hun, wrth fyw drwy ddyddiau a blynyddoedd, ac mewn cyfres o brofiadau a gweithrediadau. Gan hynny, gellir edrych ar fywyd person fel cyfres o ddigwyddiadau olynol yn ymdoddi i'w gilydd, a hefyd fel cyfanwaith unol. O'r naill safbwynt, y foment hon yn unig sy'n real. Mewn gwrthgyferbyniad iddi nid yw'r gorffennol mwyach, ac y mae'r dyfodol heb ddod. Ond nid yw'r presennol yn real ar wahân i'r gorffennol a'r dyfodol. Dibynna'r foment hon yn hanes dyn ar orffennol ei fywyd, ac y mae'n arwain i'w ddyfodol. Ymhellach, gall dyn gofio'r hyn a fu a rhagweled yr hyn a ddaw, a thrwy hyn ail fyw y gorffennol ac anticipatio'r dyfodol. Yn y presennol yr ydym yn byw, ond ni chyfyngir ni i'r presennol. Yn rhinwedd cof a dychymyg dwg dyn ei hanes i fath ar unoliaeth ymwybodol. Y mae presennol popeth byw-beth bynnag am bethau difywyd-yn dibynnu ar ei orffen- nol, ac yn arwain i'w ddyfodol. Efallai bod ambell greadur heb- law dyn yn gwybod hyn. Pan fo ci yn claddu asgwrn ac yn mynd i'r gladdfa wedyn, eithaf tebyg ei fod yn disgwyl ei weled dra- chefn. Y mae unoli gorffennol a dyfodol yn ei ymwybyddiaeth bresennol yn nodweddiadol o ddyn. Cyfyd rhai o brif broblemau ei fywyd o'r ffaith ei fod yn byw yn awr, yn gwybod ei fod wedi byw o'r blaen, yn disgwyl byw eto, ac yn medru unoli'r gorffen- nol a gofia a'r dyfodol a ddisgwylia yn y presennol ymwybodol. Dywedwn fod dyn yn un person, ond nid unoliaeth seml ydyw; nid unoliaeth chwaith sydd yn bod yn ei gyfan ar unrhyw foment. Y mae i agweddau ac elfennau'r foment bresennol unoliaeth; ond ynddi ei hun unoliaeth darn wedi ei dorri ar draws cwrs bywyd yw. Ni ellir dywedyd bod dyn yn un ond wrth gymryd holl gwrs ei hanes i ystyriaeth, a thrwy benderfynu pa mor agos y dibynna amrywiol ddigwyddiadau, profiadau a gweithrediadau ei fywyd ar