Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Undeb Methodistaidd BYDD y flwyddyn 1932 yn flwyddyn i'w chofio yn hanes Ymneill- tuaeth Prydain, oblegid y flwyddyn hon daw terfyn ar yrfa'r Eg- lwys Wesleaidd fel y corfforwyd hi gan John Wesley, a therfyn hefyd ar yrfa'r prif enwadau a dyfodd allan o'r enwad hwnnw mewn canlyniad i ymraniadau chwcrw y ganrif o'r blaen. Ni pher- thyn inni yma olrhain hanes yr ymraniadau hynny, ond bydd yn fanteisiol inni nodi, mewn ychydig frawddegau, y prif resymau dros y gwahanu, fel y gellir deall yn well pa fodd y llwyddwyd i uno. I. Cododd anesmwythyd yn fuan iawn ar ól marw John Wesley yn 1791. Tra'r oedd ef yn fyw, plygai paw-b os nad yn hollol ddigwestiwn, eto ar y cyfan yn eithaf bodlon­-i'w awdurdod un- benaethol ef. Ef oedd eu tad yn y ffydd, ei greadigaeth ef oedd organyddiaeth yr Eglwys; ynddo ef y gorweddai pob hawl gyf- reithiol ynglyn â hi, ac edrychid i fyny ato gyda pharchedigaeth dwfn. Rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth, fodd bynnag, bu cryn lawer o ysgrifennu ynghylch yr hyn oedd i ddigwydd ar ôl ei ym- adawiad ef; ac yn y blynyddoedd cyntaf ar ôl ei farwolaeth cododd gwrthdystiad cryf yn erbyn llawer o weithrediadau'r Gynhadledd a'i dull o gario'r gwaith ymlaen. Arweinydd y gwrthdystiad mawr cyntaf oedd Alexander Kilham, gwr o allu ac ymgysegriad mawr. Yr oedd plaid yn yr enwad am lynu o hyd wrth Eglwys Loegr: trefnent oriau'r gwasanaeth fel na wrthdrawent ag oriau gwasanaeth yr Eglwys, ac ni chredent fod gan neb ond gweini- dogion ordeiniedig yr Eglwys honno hawl i weinyddu'r Cymun. (Diddorol yw sylwi na weinyddwyd y Cymun gan weinidogion Wesleaidd yn nghapel John Wesley yn City Road, Llundain, hyd 1826). Ysgrifennodd Kilham bamffledi yn protestio yn erbyn yr agwedd hon: dadleuai dros Ymneilltuaeth yr enwad Wesleaidd, dros wneuthur lleygwyr yn gyfrannog â gweinidogion ynglyn â gofalu am yr eglwysi, a thros roddi lle a llais iddynt yn y Gyn- hadledd. Cafodd gefnogaeth gref; ond yn 1796 diarddelwyd ef