Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar Chwâl (BRASLUN YSGRIF) §1 Rhywdro cyn diwedd Awst daw cawod o law a phwff o wynt, -a dyna hi'n hydref. Nid yw'r calendr yn cyfrif rhyw lawer wedi'r cwbl. Y mae popeth fel petai'n dyfod cyn amser ei ddigwydd, a phawb yn cyrraedd pen y daith cyn diwedd y siwrnai. Felly, i bob golwg, nid oes dim mewn bywyd yn cael ei orffen yn llwyr na'i gyflenwi'n hollol: y mae rhyw ddarn yn ymddangos ar goll bob amser. Fe fethir un curiad ac fe ysgipir un gocosen er gwaethaf pob ymdrech, am fod y naill beth neu weithred yn rhan o'r nesaf ac yn oferlapio'i gilydd. Ac os oes ystyr o gwbl i wacter, dyna ydyw-yr ysgipio rhyfedd hwn; y mae'n ddwbl ei natur am fod y naill beth yn canslio'r llall wrth ei greu. Nid ydyw'r haf nac unrhyw un o'r tymhorau byth yn cael siawns i orffen rhedeg ei yrfa, dyweded y calendr beth a fynno, oherwydd y gorgyffwrdd hwn rhwng dau gyfnod. §2 Y mae celfyddyd yn nes iddi yn hyn o beth na natur a bywyd, a dyna paham y mae celfyddyd yn drech na natur. Nid oes gân ym myd natur heb eco neu atgan rywdro o rywle, na chyffro na symud mewn bywyd heb beri symud a chyffro yn eu tro, ond y mae pen a gorffen terfynol ar lun teg a soned berffaith. Mewn byw nid oes na phen na chynffon i ddim. Ni wyr dyn pa bryd y bydd yn iach o glwy nac yn dechrau clafychu eilwaith; nid yw'n sicr pa bryd y daw pen llanw unrhyw brofiad mawr, boed drist neu lawen; ni wyr pa bryd y mae'n peidio â bod yn dad i'w fab ac yn dechrau dyfod yn frawd iddo. §3 Efallai mai'r rheswm am yr oferlapio tybiedig hwn ydyw bod popeth yn digwydd ar unwaith neu fod popeth wedi digwydd un-