Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Addysg Gristnogol yn yr India PAN ddaw yr amser i fesur maint dyled yr India i'r Eglwys Grist- nogol, nid oes amheuaeth na chyfrifir ymdrechion Cenadaethau trwy eu hysgolion a'u colegau, i oleuo meddwl y wlad, ac i roddi dynion ar y ffordd i ddeall a mabwysiadu meddwl Crist, yn un o'r cymwynasau mwyaf a dderbyniodd yr India o ddwylaw y Gorllewin. Y Cenhadwr enwog Dr. Duff oedd y cyntaf i sylweddoli gwerth addysg Gristnogol fel offeryn i baratoi meddwl yr India i dderbyn Efengyl Iesu Grist. Credai Dr. Duff â'i holl galon mai yr unig ffordd i ddeffro'r India ac i'w chyfaddasu i gymryd ei lIe priodol ym mywyd y byd, oedd ei harwain i yfed o ffynonellau gwy- bodaeth a doethineb y Gorllewin. Credai, ymhellach, y byddai cael sefydliadau addysgol yn nwylaw'r Cenadaethau, a'u haddysg yn canoli mewn gwybodaeth Feiblaidd, a'r cyfan wedi ei ddewis gyda'r bwriad o baratoi meddwl yr efrydwyr i weled gogoniant Crist, yn sicr o ennill arweinwyr dyfodol yr India i fod yn ddis- gyblion Iddo. Cafodd barn Dr. Duff ddylanwad mawr iawn ar bolisi y Llyw- odraeth, ac yn y flwyddyn 1835 penderfynwyd mai athroniaeth, gwyddoniaeth a llenyddiaeth y Gorllewin oedd i fod yn faes astud- iaeth yn yr ysgolion a'r colegau a gydnabyddid bellach gan y Llywodraeth. Rhoddwyd pob cefnogaeth i genhadon gydweith- redu â'r Llywodraeth yn y gwaith hwn. Yn wir, nid gormod yw dweud fod y Llywodraeth, yr adeg honno, yn dibynnu i fesur hel- aeth iawn ar gynhorthwy y cenhadon i gario ei pholisi newydd allan. Bu athrofeydd Cristnogol y wlad yn fagwrfa i rai o'i har- weinwyr amlycaf ymhob cylch, dynion diwylliedig a yfodd yn ddwfn o ysbryd Crist, ac a fu yn achos i symud o fywyd yr India lawer iawn oedd yn groes i'r gydwybod Cristnogol. Enillwyd i Grist drwyddynt lawer iawn o'r rhai a ddaeth wedi hynny yn ar- weinwyr amlwg iawn yn yr Eglwys. Yn wir, y mae hanes teulu- oedd a disgynyddion y rhai a fedyddiwyd gan Dr. Duff ac eraill, a dyled dros yr Eglwys Frodorol iddynt ymhob cyfeiriad hyd y