Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhai Llyfrau Diweddar ar y Sacramentau Un o'r pynciau y dyry diwinyddion heddiw gryn sylw iddo yw'r Sacramentau. Gwnaethpwyd llawer o waith diddorol yma'n ddi- weddar. Nodwn yn arbennig Oesterley, The Jewish Background of the Christian Liturgy (1925); Gavin, The Jewish Antecedents of the Christian Sacraments (1928); Quick, The Chrstian Sacra- ments (1927); The Evangelical Doctrine of Holy Communion wedi ei olygu gan Macdonald; Brilioth, Eucharistic Faith and Practice Evangelical and Catholic (1930); a Hicks, The Fulness of Sacrifice (1930). 1. Fel y gwyddir, y syniad ffasiynol diweddar ydyw mai o'r Cyfrin- grefyddau y daeth y rhan fwyaf· o syniadau sacramentaidd yr Eg- lwys ymhob oes ond y gynharaf un. Yn wahanol i hyn y synia Oesterley, a Gavin hefyd, a phwysleisiant y tebygrwydd sydd rhwng sacramentaliaeth yr Eglwys Gristnogol Fore a syniadau'r Iddewon ar y pwnc ynghyd â'u harfer hwy. Dywed Brilioth: Gwelir erbyn hyn mai un o ffrwythau annaturiol ysgolheictod hanesyddol, a rhyw chwiw a berthyn i blant, peth nad yw'n ddi- eithr i'r Gwyddorau ifainc, yw'r ymgais i brofi mai deillio'n union- gyrchol o ddefodau paganaidd a wnaeth bedydd a chymun. Ni cheir yr esboniad hwn heddiw ond mewn cyfrolau o-waith ysgrif- enwyr poblogaidd, pobl a'n temtia i ddweud mai eu neges yw chwanegu at hir-hoedl dyfaliadau llai ffodus y gwir ysgolheigion (td. 49, 50). Mater y dadleuir llawer arno yw tarddiad y Cymun. Ffafria Oesterley, Gavin, Brilioth a Hicks y syniad mai pryd o ymbaratoi neu ymsancteiddio (Cid-dwsh) ydoedd y Swper Olaf; ac er yr am ddiffyn Dalman, yn ei lyfr Jesus-Jeshua (1928), a hynny'n bur ddysgedig, yr hen syniad mai'r Pasg ydoedd, barnwn mai'r syniad arall a saif bellach. Yr anhawster mawr yw penderfynu beth yn union a wnaeth ac a ddywedodd yr Iesu yn y Swper Olaf. Ym- ddengys mai Sant Paul yn unig sydd gennym i dystio ddarfod i'r Iesu sefydlu defod y bwriedid ei pharhau,