Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CERDDI'R BUGAIL. Gan Hedd Wyn. Gyda Rhagair gan WiUiam Morris. Wrecsam Hughes a'i Fab. Pris 3/6. Y mae cerflun arderchog o Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd. Dywaid rhai nad yw'n nodweddiadol o'r bardd ei hun, gan fod yr artist wedi rhoi ffon bugail yn ei law ac nad bugail mohono na dim byd arall ond bardd. Bid a fo am hynny, y mae Hedd Wyn yn yr wyneb tarawiadol a bortreiwyd gan L. S. Merrifield fel pe'n clywed y Gân yn dyfod gyda'r awel dros y bryniau tywyll niwlog." Y mae'n dda gennyf gan hynny fod darlun o'r cerflun yn yr argraff- iad newydd o Gerddi'r Bugail a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrec- sam. Er nad yw'r pris ond 3/6, y mae'r gyfrol hon yn edition de luxe mewn gwirionedd, gyda'i chloriau o liain du a'i phrintwaith prydferth ar bapur rhagorol, a'i rhagair gwych gan y Parch. William Morris, Bryndu. (Gyda llaw, oni ellir ei berswadio i sgrifennu eto'n helaethach ar yr un testun? Y mae ei brôs mor lliwgar â'i farddoniaeth). Dyma ffordd deilwng iawn o gofìo arwr, a ffordd a fuasai'n ddewisol yng ngolwg llyfrgarwr ffel Hedd ei hun. Vn 1914 y deuthum i'w adnabod pan aethum i Drawsfynydd i bregethu yn stiwdent ar fy mlwyddyn braw mewn dygn ofn a chwys." Yr oedd Traws- fynydd yn gyhoeddiad pell iawn yn fy ngolwg y pryd hynny-siwrnai oer, anghysurus yn y gaeaf, a chryn filltir i gerdded wedyn o'r trèn i'r llety trwy wynt a glaw. Allan â mi o'r stesion i'r tywyllwch eithaf, yn teimlo'n bur ddigalon na buasai rhywun yno i'm cyfarfod. Safwn y tu allan yn y tywyllwch a'r glaw, ar gyfyng gyngor pa beth a wnawn ai mentro i gyfeiriad y pentref ai holi'n fanwl pa Ie yn union yr oedd y llety. Yn sydyn dyma law gadarn yn cydio yn fy mraich, a dyma lais o'r tywyllwch Mi af i â chi i'ch llety. Mi wn i lle 'rydech chi i aros,’’­ac i ffwrdd â mi yng nghwmni yr arweinydd, a ddaethai ataf mor ddisymwth o'r gwyll. Ar y siwrnai dyma fo yn dechrau siarad ar ei union am farddoniaeth. Digwyddaswn ennill mewn dwy eistedd- fod fach yr wythnos cynt-cadair Nefyn dan feirniadaeth Llew Tegid, a chad- air Eisteddfod Myfyrwyr Bangor dan feirniadaeth Syr John Morris-Jones. Erbyn deall, nid ar ddamwain y daethai fy nghydymaith i'r stesion, ond bardd ifanc oedd yntau yn awyddus i gyfarfod â chymrawd er mwyn cyfnewid profiad. au. Cymerais ato ar unwaith. Yr oedd rhywbeth mor hoffus yn ei ffordd. Yr oedd yn hollol ddiymhongar ac eto yn sicr ohono'i hun fel bardd. Anghofiwyd y ddrycin gan felysed yr ymgom, ac yn fuan iawn yr oeddem wrth ddrws y llety. Er crefu a chrefu, ni ddeuai i mewn; ond gwelwn yngolau'r ffenestr wyneb gwr itfanc tua saith ar hugain oed, wyneb cryf a garw braidd, ond yn yr wyneb tywynnai'r llygaid mwynaf ac eto mwyaf treiddgar a welais i fawr erioed. Gan ei fod yn rhy swil i ddyfod i mewn, a chan fod ei gymdeithas yn llawer rhy ddiddorol i mi ei cholli ar hynny, nid oedd dim i'w wneud ond gadael y bag yn y ty a myned alan gydag ef i'r nos eilwaith. Clywaf ei lais y funud yma yn adrodd ei farddoniaeth wrthyf, a minnau, laslanc pedair-ar bymtheg, yn rhyfeddu at y fath ddawn.-