Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fynydd. Y mae trefn newydd yr argraffiad hwn yn rhoddi gwell chwarae teg i'r caneuon mawreddog hynny, ac y mae'n dda iawn gennyf mai'r delyneg Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng yw'r cyntaf peth yn y llyfr. Y mae Hedd Wyn yn dod yn ôl i'w deyrnas. Credodd ynddo'i hun tfel bardd, ac nad yn ofer y rhoddes Duw iddo Ei gyfrinach. Y mae ei Gyffes Ffydd fel artist yn werth i'w chofio Pe chwythai y corwynt fi'n fil o ddarnau Fel niwl trwy ,gangau y deri a'r yw, Ni phallai fy ffydd, na sain fy nghaniadau, Cans gwn na'm chwythid tu allan i ffiniau Y bwriad sy fyth yng nghyfrinach Duw." BYWGRAFFIAD LLEW TEGID. Gyda Detholiad o'i Weitlnau wedi eu trefnu au golygu gan y Parch. W. E. Penllyn Jones, Colwyn. Hughes a'i Fab, Wrecsam. 2/6. Vr oedd Llew Tegid yn alluog mewn llawer cyfeiriad. Bu'n ysgolfeistr Ilwyddiannus yn y Cefnrfaes, Bethesda, a'r Garth, Bangor. Bu'n gasglydd fíyfal at gronla adeiladau Coleg y Bnfysgol, Bangor. Pan roddes y gwaith hwnnw o'i law yn ŵr 65 mlwydd oed, yr oedd wedi casglu i'r gronfa honno yn ymyl can mil o bunnau. Yr oedd yn fardd ac yn gerddor go dda, ac yn feirniad adrodd safonol. Ond mewn un maes safai yn hollol ar ei ben ei hun. Ni welais neb tebyg iddo am arwain eisteddfod. Am chwarter canrif ni ellid meddwl am yr Eisteddfod Genedlaethol hebddo. Gallai'r dyrfa tfawr oddef eu siomi gan Dywysog Cymru, neu Mr. Lloyd George, neu fardd y gadair neu'r goron, ond yr oedd Eisteddfod heb y Llew yn ddigon i roddi pruddglwyf i genedl gyfan," meddai Caerwyn yn y gyfrol goffa hon. Cynysgaeddwyd ef â llais clir, treiddgar a seinber, meddwl bywiog, parabl pert, toreth o ffraethebion, chwaeth dda a synnwyr pen a chalon, a chyfunid y cwbl gan wlatgarwch a Chymreicdod iach a rhadlon." "The greatest conductor of his time," medd- ai'r Athro J. E. Lloyd amdano. "His control of the crowd was almost un- canny." Yr oedd yn graff ac yn gyflym i weled y ffordd allan o anawsterau. Dyma un stori dda a adroddir am hynny yn ei Fywgraffiad Yn Eisteddfod Pen y Bercwy yr oedd y dorf wedi mynd yn hollol ddi- lywodraeth, a phob un yn ymddiddan gyda'r agosaf ato. Pan ddaeth y Llew i'r llwyfan safodd yn sydyn,, a gofynnodd i ddyn oedd yn bur anesmwyth heb fod ymhell oddi wrtho, Beth sydd arnoch chi?' Atebodd hwnnw yn bur ddi- amynedd, Wedi colli fy het yr ydw i.' Atebodd y Llew ef yn hamddenol, Dyna ddyn yn eich ymyl wedi colli ei wallt, ac yn hollol dawel.' A daeth pawb i dymer dda." Ar ddechrau'r gyfrol goffa hon y mae hunan-fywgrafnad byr gan Lew Tegid ei hun, ac i mi dyma'r rhan fwyaf diddorol o'r cwbl. Dyma sgrifennwr rhyddiaith campus. Credaf petai awdur yr hunangofiant direidus hwn wedi crynhoi ei egnïon i sianel pròs y cawsem ganddo gystaf nofel â Rhys Lewis. Doniol yw ei hanes amdano'i hun pan oedd rhwng wyth a naw oed yn mynd E