Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn llanc o ifugail at Gwen Jones, hen wraig weddw wrth odre Mynydd Uchel- dre. Hen wraig dda oedd Gwen Jones ond ei bod braidd yn danbaid ei thymer gan ei bod, fodd bynnag, yn gloff, ac yn cerdded wrth ei baglau, nid oedc1 y stormydd oedd yn ei chynhyrtfu hi yn peri dim anghyfleustra i mi, am fy mod wedi gofalu ar ôl y storm gyntaf fesur hyd y fagl. Yr oedd Tobi y ci wedi dysgu'r un wers cyn i mi fynd yno, a pharai gryn drafferth i mi ar y cyntaf. Yn lle mynd i'w neges ar ôl y defaid, fel y bydd arfer cwn ufudd yn gyffredin, ciliai Tobi rhyw ddau hyd y fagl ac eisteddai i lawr yn hunan. feddiannol yn edmygu tfy ymdrechion i geisio ei yrru ymhellach." Y mae gat y Parch. Penllyn Jones, sydd wedi trefnu a golygu'r Bywgraffiaé mor ddestlus a diddorol, deyrnged brydferth ar ei ddiwedd i weddw Llew Tegid :—" Pan fyddai ef yn llunio drama, yn cyfansoddi cerdd neu yn saernú dadl, byddai ei briod yn ymladd brwydr bywyd yn ddewr ar lawr y gegin Bu ei phwyll a'i doethineb o gymorth amhrisiadwy iddo mewn llawer adwy gyfyng." Diolch i chwi, i'enllyn, am gydnabod fel hyn y dewrder sy 'nghudd oddi wrth y cyhoedd, dewrder priod yr artist yn ei brwydr â phroblemau economaidd y 'byd a'r bywyd hwn. Penmaenmawr. CYNAN. THE PHILOSOPHY OF RELIGION, based on Kant and Fries. By Rudou Otto, D.D., Professor in the University of Marburg. Translated by E. B Dicker, M.A. London: Willia?ns and Norgate, Ltd. 1931; 10/ Y mae'r Dr. Otto eisoes yn dra adnabyddus ym Mhrydain Fawr fel awdu1 y ddwy gyfrol a gyfieithiwyd i'r Saesneg o dan y teitlau Naturalism and Religion a The Idea of the Holy. Ymddangosodd y blaenatf yn Saesneg mot bell yn ôl â 19o7; a chydnabuwyd gwerth y llyfr o'r dechrau, er na thynnodd sylw mawr. Ond ar ôl cyhoeddi ei lyfr enwog ar Y Sanctaidd (argraffiad Saes neg 1923) daeth Otto yn enw teuluaidd, 0 leaf ymhlith y rhai a gymer ddiddor deb deallus mewn materion sy'n dal perthynas â seiliau'r ffydd. Nid yw'r gyfrol newydd hon yn trafod yr un pynciau â'r llyfr ar Y Sanct aidd, er eu bod yn ddiamau yn cytuno â'i gilydd yn y dwfn. Dehongliad yw'r gytfrol newydd o athroniaeth crefydd ar sail dysgeidiaeth Kant a Fries, yn ar. bennig Fries. Nid oes eisiau hysbysu darllenwyr Y TRAETHODYDD pwy oedd Kant, un o athronwyr mwyaf treiddgraff a dylanwadol y canrifoedd diwethaf Ond am Fries (1773­1843), y mae ef bron yn gwbl anhysbys ym Mhrydain Fawr. Yn wahanol i'w gydwladwr a'i gydoesydd Schleiermacher, anfynych iawn y cyfeirir ato mewn llyfrau ac ysgrifau ar athroniaeth a diwinyddiaeth. Ac eto dywaid Otto-yntau'n awdurdod uchel ar Sclùeiermacher-fod Fries yn feddyliwr mwy cynhwysfawr, trwyadl a sylweddol nag ef (td. 15). Disgybl Kant oedd Fries, ond dengys Otto i'r disgybl lwyddo i wella ar ddysgeidiaeth ei feistr yn ei mannau gwan. Un anhawster a deimlir wrth ddarllen y llytfr hwn —ac yn hyn o beth y mae'n gyffelyb i Efengyl Ioan-yw gwybod pa Ie mae ei grynodeb o ddysgeidiaeth Fries yn diweddu a'i ddatganiad o'i farn ei hun yn