Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nid yw mewn un modd yn bwnc myfyrdod ysgolheigaidd (td. 179). Cytunatf fod meithrin teimladau addas tuag at Grist a'i Groes yn holl-bwysig. Ond yn sicr mynd i eithafion peryglus a wna Otto a'i ysgol wrth haeru nad oes Ie o gwbl i athrawiaeth amdanynt. Sylwais ar rai llithriadau pwysig yn yr argraffr. Er enghraifft yn y dyfyn- iad Almaeneg o Goethe, y llinell olatf, ceir y gair freie yn lle ird'she (td. 131). Ar dud. 152, llinell 6, y mae'n amlwg i mi y dylem ddarllen De Wette yn lle Schleiermacher." Ar dud. 207, rhoddir y flwyddyn 1927 yn lle 1827 fel dyddiad cyhoeddi llyfr, ond beth yw canmlynedd i athronydd? Mr. Golygydd, a yw cyfieithydd y llyfr hwn yn gallu darllen Cymraeg ? Os nad yw, pa fodd y gall gywiro'r camgymeriadau hyn yr yr argraffiad nesaf? Yn ddiamau y mae hwn yn llyfr gwerthfawr a phwysig. THE VISION OF GOD The Christian Doctrine of the Summum Bonum, Bampton Lectures. By Rev. Kenneth E. Kirk, D.D. (Longmans, Green & Co., xxviii. + 583 pp.; 1931; 25/ Yn y gyfrol drwdhus hon y mae'r awdur yn trafod ei fater yn y modd mwyaf llafurfawr a disbyddol. Yn wir y mae ei fanylder yn aruthrol. Y mae'r llyfr wedi ei orlwytho o'r dechrau i'r diwedd â chyfeiriadau at y ffynonellau, ac â sylwadau ychwanegol mewn footnotes sydd ar gytfartaledd yn ffurfio hanner potb tudalen drwy'r llyfr. Ychwanega hyn yn fawr at werth y llyfr fel un i gyfeirio ato, i'r sawl a fynno wneud ymchwiliadau pellach i'r materion yr ym. drinir â hwynt. Ar yr un pryd fe bair hyn fod y llyfr braidd yn feichus i'w ddarllen, oni byddo dyn wedi dysgu'r gelfyddyd gain o lamsach dros y rhannau mwyaf amherthynasol (i bwrpas y darllenydd) a chasglu hufen pob tudalen heb eu darllen air am air. Y perygl yw i'r darllenydd fethu â gweld y goedwig gan amlder y coed. (Y mae'r Mynegai'n unig yn cymryd 25 tu- dalen !). 0 drin athroniaeth neu ddiwinyddiaeth y mater yn unig, gellid gwasgu'r gyfrol i gwmpas llawer iawn llai. Ond ymdrinia'r awdur ag ef yn hanesyddol, gan olrhain barn a defod yr Eglwys ar hyd y canrifoedd. Y mae pob tudalen yn peri inni synnu at ddyfalwch a gwybodaeth ac ysgolheictod yr awdur. Prif ergyd yr holl drafodaeth yw mai nod eithaf y bywyd Cristnogol yw cael gweledigaeth o Dduw, a bod holl foeseg Cristnogaeth yn tarddu o'r weled- igaeth honno. Ceir yr allwedd i'r grefydd a'r bywyd Cristnogol yn y geiriau cyfarwydd "Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Deil yr awdur fod y meddwl Cristnogol ar ei orau bob amser yn dehongli'r wel- edigaeth o Dduw tfel yn cyfleu mai rhagorfraint uchaf y Cristion, yn y byd hwn ac yn y byd a ddaw, yw addoli, ac mai yn y weithred neu'r agwedd o addoli'n bennaf oll y ceir ysbrydoliaeth a chyfarwyddyd i gyflawni dylet- swyddau ymarferol y bywyd Cristnogol. Gwelir felly mai math o gyfriniaeth ymarferol yw cnewyllyn dysgeidiaeth y llyfr. Fel penllad (summum bonum) bywyd, deil o'n blaen gymundeb â Duw yn arwain i fywyd o wasanaeth. Nid oes dim newydd yn hyn, o'i fynegi'n noeth ac yn syml fel yna. Efallai y bydd rhai'n synnu pam yr oedd yn rhaid wrth gyfrol 0 600 tudalen i brofi