Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dengys Kirk yn glir mai deuoliaeth anghywir oedd sail mynachaeth eith- afol. Dengys hefyd mai'r canlyniad alaethus oedd creu agendor rhwng y bywyd crefyddol a'r bywyd seciwlar," a'i gwneud yn amhosibl i'r lleygwr fyw yn wir grefyddol. Teimlaf fod Kirk yn llawer rhy drugarog tuag at y mudiad mynachol. Ond cytunaf yn galonnog â'r casgliad y daw iddo. Beth yw'r weledigaeth o Dduw a addawodd Crist, yn rhannol yn y byd hwn, yn ei gyflawnder yn y byd a ddaw, i'r rhai pur o galon? Nis cyfyngir o fewn terfynau cul. Lle bynnag y bo meddwl dyn wedi ei ddyrchafu, y gorch- fyga ei demtasiwn, y cywirir ei grwydriadau, y cysurir ef yn ei ofidiau, y cryf- heir ef yn ei benderfyniadau, gan ei weledigaeth o burdeb, diniweidrwydd, cariad a phrydferthwch, y mae'r dyn hwnnw'n rhannol wedi cael y profiad cyfriniol. Er mai pwl, efallai, yw ei ddrych, er hynny gwelodd Dduw (td. 464). Ergyd y geiriau hyn yw bod y profiad cyfriniol, y weledig- aeth o Dduw, yn bosibl i'r dyn cyffredin yn ogystal ag i fynach neu feudwy neu offeiriad. Gwahaniaeth graddau ac nid gwahaniaeth natur neu ansawdd, sy rhwng crefydd y lleygwr sy'n dilyn galwedigaeth fydol, a chrefydd y cyfrin- ydd neu'r sant proffesedig. Cytunaf yn galonnog â hyn. Yn wir credaf fod mwy o arwriaeth yn y blaenatf nag yn yr olaf. Paham, ynteu, y dywed Kirk yn nes ymlaen, the emergence of monasticism in the fourth century as a feature in world history finds no explanation except in the genius of Christ- ianity itself (td. 470)? Ni allaf gytuno â hyn. Nid yw mynachaeth yn gyson â gwir athrylith crefydd Crist. Nid wrth ffoi i'r anialwch y mae dwyn y groes a byw'r arwrol. Mwnglawdd gyfoethog i'r cloddiwr dyfal yw'r gyfrol hon. Aberhonddu. D. Miall Edwards. COFIANT CYFOED. Gan y Parch. R. H. Watkins, Pant Glas. Cyhoeddwr Mri. E. W. Evans, Dolgellau. Pris 3/6. Yn ôl yr wyneb ddalen Cofiant y Parch. Alun Morgan, gweinidog Salem yw'r llyfryn hwn, ac yn ôl y rhagair awgrymir mai nofel ydyw. Dywaid Mr. Watkins nad oes blot yn y llyfr. Mae gan awdur berffaith hawl i alw cofiant yn nofel (mae hynny'n beth ffasiynol yn Lloegr y dyddiau hyn), ac y mae ganddo berffaith hawl i ysgrifennu nofel heb blot (mae hynny'n beth ffasiynol hefyd). Ond nid cofiant sydd gan Mr. Watkins, ond llyfr o'i atgofion ei hun ac o'i feddyliau ei hun am .grefydd yn ein dyddiau ni a dyddiau ein tadau. Nid oes wrthwynebiad i hyn chwaith mewn nofel. Gwnaeth Daniel Owen a llawer eraill yr un peth. Ceir mewn nofelau gymaint o sôn am gymeriadau llai ag a geir am y cymeriad pwysicaf ei hun. Gyda hyn o wahaniaeth fel rheol, defnyddir y cymeriadau llai i ddangos eu perthynas â'r prif gymeriad a'u dylanwad arno, a hefyd yn gefndir neu wrth-gyferbyniad i ddangos y prif gymeriad yn well. Ond ni wneir hynny gan Mr. Watkins. Traethu a wnâ ar hen gymeriadau Sir Drefaldwyn ar wahân, ac nid fel dylanwadau ar fywyd Alun Morgan. O'r hyn lleiaf ni ddangosir yn y llyfr fod a wnelont lawer ag Alun Morgan. A chymeriad mewn cysgod yw Alun Morgan ei hun, Ni