Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

welwn ef yn glir iawn. Ni fedrwn ffurfio barn am ei gymeriad. Y cwbl a welais yn glir ydoedd, ei fod yn ddyn a allasai ddyfod yn bregethwr poblog- aidd, ond a ddewisodd yn hytrach fod yn bregethwr sylweddol, ac a ddewisodd gadw'n glir â phwyllgorau'r Cyfarfod Misol, &c. Siarad yn gyffredinol a wnâ Mr. Watkins amdano-rhoi rhyw grynhodeb inni o'i nodweddion, heb gadw at drefn amser na dim felly. Oblegid hynny, ni welwn y dyn yn glir, gan mai bywyd dyn o'r naill ddydd i'r llall, yr hyn a wnâ a'r hyn a ddigwydd iddo, sy'n dangos ei gymeriad yn glir, ac nid disgrifiadau ohono. Yr oedd Daniel Owen yn euog o hyn, ond yr oedd pethau yn dilyn ei gilydd (seauence) a phethau yn digwydd ganddo ef. Mae hanes hen bregethwyr yr oes o'r blaen yn ddiddorol iawn gan Mr. Watkins, efallai am eu bod yn wahanol i bregeth- wyr ein hoes ni. Am yr un rheswm mi fydd hanes ein hoes ni yn ddiddorol i'r oes nesaf. Fel yna y mae hi. Dywaid Mr. Watkins ei farn yn bur groyw am ei Gyíundeb. Am wn i nad oes wrthwynebiad i hynny chwaith mewn nofel. Fe ddewisodd Mr. H. G. Wells ei nofelau diweddaraf i ddweud ei farn am bethau. Dyry ei syniadau ef ei hun am fyd a bywyd yng ngenau ei gymeriadau. Ond teimlo y byddwn i wrth eu darllen y buasai'n well i Mr. Wells ysgrifennu ei farn ar ffurf traeth- awd a gorffen gydag ef, yn lle ein denu i gredu bod stori ganddo, a'r nofel yn hollol amddifad o stori. Beirniada Mr. Watkins aelodau crefyddol, yn weini- dogion a blaenoriaid ac aelodau eraill, yn bur hallt. Ond, gwaetha'r modd, beirniadaeth y cytuna pawb â hi ydyw. Dywaid lawer o wir, ond nid yw'n wir newydd. Buasai'n taro'n newydd ar glustiau crefyddwyr rhyw ddeng mlynedd ar hugain yn ô1. Ond erbyn heddiw, fe gytunai'r bobl yr ysgrif- enna'r awdur yn eu herbyn. A gwell efallai a fuasai i Mr. Watkins droi'r llyfr i ohwerthin am ben yr anghysonderau bendigedig hyn sy'n gwneud bywyd mor ddiddorol. Yn lle hynny, fe bregetha'n ddifrifol yn eu herbyn. Mynd gyda'r llif y mae Mr. Watkins ac nid yn ei erbyn. Fe dynasai'r llyfr lawer mwy o sylw ped aethai yn erbyn y llif, a chredatf hefyd y gwerthasai'n well ped ysgrifenasid ef ar ffurf traethawd neu atgofion, heb geisio dyfod â hanes neb mwy na'i gilydd i mewn. I un sy'n tgallu ysgrifennu Cymraeg mor idiomatig, gresyn na chywirasai ramadeg y llyfr. Gwaith bychan a fuasai hynny i un a wyr ei Feibl cystal. Synnais weled gwallau ganddo na cheir mohonynt yn y Beibl. KATE ROBERTS. THE PLATONIC TRADITION IN ANGLO-SAXON PHILOSOPHY, by H. Muirhead, Ll.D. Library of Philosophy. George Allen and Unwin, Ltd., pp. 449. 1931. I. Y mae bron yn arferiad ymhlith ysgrifenwyr ar Hanes Athroniaeth i gyf- errio at Brydain fel cartrefle y Synwyriaethol (the Empirical) mewn Athron- iaeth, ond i'r Almaen yr â'r anrhydedd o letya Delfrydiaeth y canrifoedd di- weddar. Mewn ystyr eang y mae mesur helaeth Q wirionedd yn llechu yn y