Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Nodiadau Cyffredinol ADROiDDIAD y bu cryn ddisgwyl amdano yng Nghymru ydyw hwnnw gan y Comisiwn Brenhinol ar Drwyddedu, h.y., trwyddedu tafarndai o bob math. Codasid ein dis- gwyliadau am ryw ffrwyth oddi wrth y Comisiwn gan areithiau rhai o arweinwyr Dirwest yng Nghymru, a chan gyhoeddi rhai o'r tystiolaethau a roddwyd i'r Comisiwn. Argraffwyd llyfryn arbennig a gynhwysai grynodeb o'r tystiolaethau a roddasid o Gymru, yn ogystal â rhai tystiolaethau eraill. Yn gynnar yn Ionawr cyhoeddwyd yr Adroddiad ei hun. Cyn ceisio pwyso a mesur gwerth adroddiad o'r fath, y mae'n rhaid gwybod i ba amcan y penodwyd y Comisiwn a'i lluniodd. Gwelwn mai'r amcan ydoedd "chwilio pa fodd y gweithia'r deddfau sy'n rheoli gwerthu a chyflenwi diodydd meddwol, i ystyried agweddau moesol ac economaidd y pwnc, ac wedi chwilio i mewn iddynt i ddwyn adroddiad ar unrhyw gynigion a wneir i wella'r gyfraith yn Lloegr a Chymru er budd y cyhoedd." Rhennir yr Adroddiad i ddeugain namyn un o benodau. Bwrir golwg yn y penodau cyntaf ar y safle fel y gwelir hi heddiw o wahanol safbwyntiau, a gwneir awgrymiadau wrth fynd ym- laen. Tystir bod sobrwydd wedi enill tir mawr yn ystod y blyn- yddoedd diwethaf. Mewn atodiad ceir hanes manwl am y ffordd y tyfodd y gyfundrefn bresennol o drwyddedu. Ar ôl hynny daw rhestr o'r biliau a gyflwynwyd i'r Senedd, ond nas pasiwyd, er yr adeg y daeth Deddf Trwyddedu 1904 i rym; gwelir enw Arglwydd Clwyd (fel Mr. neu Syr H. Roberts yn ogystal â than ei deitl presennol) ddeg gwaith fel cyflwynydd Mesur Dirwestol arbennig i Gymru, ac eraill o'r Aelodau Seneddol Cymreig gydag ef ar ôl ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi. CYF. LXXXVII. RHIF 383. EBRILL, 1932.