Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Methodistiaid Calfinaidd a'u Hanes* I PRIN y gellir dywedyd i gyhoeddwyr llyfr pwysig fel y Darlith Davies ddiwethaf lwyddo i'w wneuthur yn atyniadol i brynwyr, a themtiwyd fi i fod braidd yn llym ar ei wisg allanol; y papur di- reswm o drwchus, na fyn ei gyfyngu o fewn i'w glawr heb ei gludio mor anystwyth nes ei bod yn anodd agor y llyfr, ac wedi ei agor y mae'n dylyfu gên ac yn tueddu i ymddatod. Ond wedi'r cwbl, rhodder clod i'r Mri. Foyle am un peth o leiaf-y maent wedi mentro cyhoeddi'r llyfr pan wrthodwyd gwneuthur hyny gan swyddfa yr oedd gennym lawer mwy o hawl i ddisgwyl iddi ei gyhoeddi. Fel llawer Methodist arall "yn y seti," bûm yn ystod y tair blynedd ddiwethaf mewn cryn bryder ynghylch polisi ein Llyfrfa yn hyn o beth. Yn gyntaf, dywedwyd wrthyf nad y Llyfrfa oedd yn mynd i gyhoeddi Darlith Davies y diweddar Ddr. M. H. Jones ar Lythyrau Trefeca. Teg yw ychwanegu nad yw hynny bellach yn wir; y mae'r Pwyllgor Hanes wedi ymddwyn yn anrhydeddus gan ymgymryd â chyhoeddi honno, er mai gwaith costus a di- dâl fydd, fel y dylwn i o bawb wybod-efallai y caf ddywedyd yma, â llawenydd mawr, fod y cwbl o'r gwaith erbyn hyn yn nwy- lo'r argraffwyr. Ond yn ail, daeth cyfrol werthfawr Mr. Richard Bennett (yr ydym bawb yn falch o glywed am yr anrhydedd a osododd y Brifysgol arno) ar Fethodistiaeth Trefaldwyn; cefais gryn drafferth i gael copi ohoni, am mai anturiaeth breifat ar ran y Cyfarfod Misol oedd ei chyhoeddi­-yr oedd y Llyfrfa wedi ei gwrthod. Ac yn drydydd, wele lyfr fy nghyfaill a'm bugail gynt, yntau'n cael drws Caernarfon wedi ei gau yn ei ddannedd. Cyn tywallt ffiolau fy nicter ar y Llyfrfa, teimlais hi'n ddylet- swydd arnaf chwilio i'r ffeithiau, a chefais hwy gan wr blaenllaw a chyfrifol yn llysoedd ein henwad. Ac yn wir, y maent wedi newid rhyw gymaint ar fy syniadau: 0 leiaf. ar gyfrifoldeb y Methodistiaeth Galfinaidd Cymru: Ymgais at Athroniaeth ei Hanes (Darlith Davies 1930), gan y Parch. John Robert9, M.A., Caerdydd. Llundain, Gwasg Gymraeg Foyle, 1931. 160 td., 5/