Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwadau ar Faddeuant (AIL YSGRIF). SYLWYD, mewn erthygl flaenorol, mai'r hyn sy'n cyfiawnhau maddeuant yw y rhydd gyfle i ddyn wynebu gweddill ei oes ar amodau a'i gwna'n bosibl iddo gyfannu ei bersonoliaeth a pher- ffeithio'i fywyd. A dibyna hyn ar y grediniaeth y medd person- oliaeth dyn werth,-ei fod yn rhy gysegredig i'w ddinistrio heb ymgais i'w achub. Os camddefnyddiodd ei orffennol, nid yw hyn ynddo'i hun, yn ddigon o reswm dros wrthod cyfle iddo wneuthur iawn ddefnydd o'i ddyfodol. Nid yw dinistr ei orffennol yn galw am ddinistr ei ddyfodol. Yn hytrach gofyn cyfiawnder,-heb són am drugaredd,­-ar fodau moesol i symud y rhwystrau a all fod ar ffordd edfryd cyfiawnder ym mywyd dynion, ac i atal rhwysg anwiredd pobl. Ac os gwna maddeuant hyn, neu os yw maddeu- ant yn angenrheidiol i wneud hyn yn bosibl, rhydd cyfiawnder ei fendith arno. Rhydd yr Iesu cyfiawn ei fendith ar faddeuant. Disgwyl iddo beri edifeirwch er na esyd edifeirwch yn amod ei roddi na'i dderbyn chwaith. Dywedodd yn syml Dau ddyled- wr oedd i'r un echwynwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain. A phryd nad oedd ganddynt ddim i'w dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau." Pwy arall erioed a ddywedodd beth mor hollol resymol â hyn ? Beth arall a wnai dyn doeth a graslon i rai heb ddim i'w dalu, ond maddau iddynt fel y gallent sefyll ar eu traed rhydd ac ail-geisio byw. Nid ydym, yn gyffredin, yn ddigon cyfiawn i gredu mewn maddau- mewn maddau hyd yn oed y ddyled hawsaf ei maddau, sef dyled ariannol. Awgrymodd Arglwydd Balfour ddeng mlynedd yn ôl i genhedloedd y byd faddau dyled y rhyfel i'w gilydd. Ystyriwyd yr awgrym yn un ynfyd. A chlywir eto y dywediad fod cymdeithas yn dibynnu ar waith dynion yn parchu dyled uwch law pob peth, er bod cenhedloedd y byd, yn ddyledwyr ac echwynwyr heddiw ar fin methdaliad oherwydd gosod arnynt i barchu dyled-a hwythau heb fodd i dalu. Credai Iesu Grist mewn maddeuant. Anogai