Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gwys Unig ERYS rhyw gymaint o swyn yn enw Arglwydd Rosebery o hyd. Y mae'r genhedlaeth oedd yn ieuanc pan oedd ef yn Brif Wein- idog bellach yn ganol oed. Ni wyr pobl sydd yn ddeg ar hugain heddiw fawr amdano nac am y diddordeb a gymerid ynddo un- waith, nac am y traddodiad a luniwyd yn ei gylch. Yn wleid- yddol y mae Rosebery yn agosáu at yr ebargofiant hwnnw a lyncodd bobl fel Arglwydd Iddesleigh neu M|r. Childers. Ond yr oedd yn digwydd fod ynddo ef rai nodweddion eraill, hwy eu hapêl,-cyffyrddiad, mwy na chyffyrddiad efallai, o athrylith yr areithiwr, a chryn gyfran o ddawn y llenor. Yr oedd rhyw swyn personol ynddo hefyd ar un adeg, y swyn hwnnw sydd weithiau i'w gael o gwmpas dynion ieuanc o uchel dras y gobeithir llawer oddi wrthynt, dynion â rhyw ddisgleirdeb yn eu bore. I Llyfr siomedig ydyw llyfr Arglwydd Crewe.* Hwyrach na ellid disgwyl dim yn amgen. Y mae'n gwestiwn a ddylid ysgrif- ennu cofiannau gan berthnasau agos y mae Arglwydd Crewe wedi priodi merch Rosebery, etifeddodd yr un traddodiad ag yntau i raddau pell, ac hwyrach ei fod mewn gormod o gydymdeimlad ag ef i roddi darlun hollol foddhaol a dealladwy o gymeriad pur gymhleth. Gadewir amryw bethau heb eu dadrys yn y cyfrolau hyn, a theimlaf fod yr ymdriniaeth ar berthynas Rosebery a Har- court,-peth sydd yn hanfodol er mwyn deall beth a ddigwydd- odd,-yn anfoddhaol. Ni cheir ychwaith gystal triniaeth ag a fuasai'n ddymunol ar bolisi tramor Rosebery. Gadewir ni yn gofyn cryn lawer o gwestiynau na rydd y llyfr hwn unrhyw all- wedd i'w hateb. Ac y mae'n bosibl mai'r mwyaf a adewir ar y diwedd ydyw: A oedd rhagor i'w ddweud amdano wedi'r cwbl? Nid wyf yn sicr. Daw un peth yn amlwg ddigon: gwr a ddifethwyd gan ei am- gylchiadau oedd Rosebery. Ganed ef i'r bendefigaeth, a honno Lord Rösebery. By the Marquess of Crew©, Î.G. London: John Murray. ? vols. £ z ae. od. net.