Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynnwys a Mynegiant mewn Barddoniaeth EIN hamcan yn yr ysgrif hon fydd ceisio deall beth a ddigwydd pan werthfawrogwn gelfyddyd dda. Bydd rhaid gofyn caniatâd y darllenydd i gyfyngu'r enghreifftiau gan mwyaf i farddoniaeth gan mai'r gelfyddyd hon yw'r fwyaf cyfarwydd inni. Un fantais amlwg mewn cymryd barddoniaeth yn enghraifft yw bod modd ystyried y math hwn o gelfyddyd yn ei ffurf orffenedig. Medrodd Walter Pater* gyfleu gweithiau'r arlunwyr mewn iaith lenyddol a'u gwerthfawrogi felly, ond y mae'n debyg y cytunai bod ys- tyried y gelfyddyd wreiddiol yn well pan fo hynny'n bosibl. Y mae'n wir hefyd fod profiad o lenyddiaeth a barddoniaeth yn fwy cyffredin yng Nghymru na phrofiad o'r celfyddydau eraill, efallai am fod y defnyddiau'n nes atom. Hyderwn ddangos cyn y diwedd fod egwyddorion ac amodau sylfaenol pob celfyddyd yn debyg i'w gilydd, a bod perthynas agos rhwng swyddogaeth technique y gwahanol gelfyddydau, er bod y defnyddiau'n am- rywio o farmor i iaith, 0 lwyfan a phersonau byw i gynfas lonydd. Gwaith anhyffredin o ddiddorol yw dilyn y gyfatebiaeth sydd rhwng swyddogaeth artistig dulliau nodweddiadol y paentiwr a'r bardd. Dibynna'r duUiau'n gyfangwbl ar ddefnyddiau'r artist. Cymeriad geiriau ac iaith sy'n penderfynu'r modd y daw'r bardd o hyd i brydferthwch, ac wrth ystyried ei waith gwelwn rythm a chytbwysedd gosodiad y llinellau. Ond fe wêl y cyfar- wydd rythm a chytbwysedd yng ngwaith yr arlunydd. Yr un peth sy'n anghyfreithloni camosodiad y ffurfiau mewn llun a chamaceniad y sillafau mewn cân. Os medrwn ddyfalu beth yw'r egwyddorion hyn. byddwn wedi dod yn nes o lawer i ddeall perthynas y gwahanol gelfyddydau â'i gilydd. Y mae hyn yn ddigon efallai i'n hatgofio o dras cyffredin pob gwaith celfydd, ac i'n cyfiawnhau i raddau yn defnyddio enghreifftiau o un gel- fyddyd. I Efallai nad dim a sylweddolwn wrth werthfawrogi celfyddyd dda yw'r gwahaniaeth a dynnwyd yn nheitl yr ysgrif hon rhwng Gweler The Renaissanee, Walter Pater, yn arbennig ei ysgrif ar Sandro PotticeUi,