Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanfod Duw a Pherson Crist* HANES lledaeniad amryw heresi, ac ambell un yn ei wlad ef ei hun, y cyfrifid tome Gwili, sydd mor gryno ag ydyw drwchus, gan Daniel Rowland, pes gwelai. Cyn diwedd y bedwaredd ganrif cyfansoddodd Epiphanius, esgob Salamis yn Cyprus, lyfr ar gyf- eiliornadau a elwid Panarion." Yn ôl cysondeb Pantheolog- ia Pantycelyn gallai'r anghyfarwydd dybied mai pob math ar Ariaeth a drafodai. Ond gair Lladin am fasged fara oedd y teitl, ac nid Ariaeth yn unig a nithiasid at faeth y fasged. "Hanes y Ffydd Dduffuant a ysgrifennodd Charles Edwards, eithr Gwili a ddewisodd draethu ar flynyddoedd cyntaf Arminiaeth ac Ariaeth yng Nghymru gan mwyaf, a dangos cysylltiadau gwyddorol, personol ac ardalol y rhain â Sosiniaeth, gan dorri tir tra newydd yn hanes Ymneilltuaeth. Rhoddir lle hefyd i wrhydri dygn ym- drechion dros ryddid barn mewn byd ac eglwys. Deuparth ein gwaith ni, gan hynny, yw dechrau hyn o adol- ygiad ar y fasgedaid o amryfaled ymrafaelion sydd wedi eu cymwys-drefnu a'u cymen-drwsio mor gall a dillyn yn ail orchest lenyddol y bedyddiedig Archdderwydd o Arfon yng nghorff tair blynedd. Ond ni ellir cymaint â hynny heb air o ragdraith ar ei amryw ddoniau a gweinidogaethau a gweithrediadau, serch nas adwaenom yma yn ôl cnawd dewin telyneg ac awdl. Nid gweddus inni, felly, â llefaru'n llenorol a ffigurol, efelychu cyd-grefftwyr gwrthwynebydd Paul yn Effesus, a ruthrasant i'r orsedd," er na thybid bod dim yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus yng nghyd- ymffurfiad cynifer bardd-bregethwr o Ymneilltuwr ag a ymrith- iodd ar y Maen Llog, o flaen Gwili, ym mhrif urddwisg defodol draddodiad deistaidd yr Eisteddfod. Da yw'r maen gyd a'r ef- engyl. Ond caled fydd ymswyno'n wastad rhag arfer ffugenw gẃyl olynydd Elfed yn rhyw arwydd law-fer gyfleus ac eofn, neu Hartfod Duw a Pherson Crist. Athrawiaeth y Drindod a Duwdod Crist yn bennaf yn ei pherthynas d Chymru. Gan John Gwili Jenkins, Bangor. Liverpool: Yng Ngwasg Y Brython," Hugh Evans a'i Feibion, Cyf., 356/360, Stanley Road, 1931. 10/