Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CWM EITHIN. Gan Hugh Evans. td. i.­xii., 1­224. Lerpwl: Gwasg y Brython. 3/6. 1931. Cyn darllen llyfr Mr. Hugh Evans gwelais ddau neu dri adolygiad ffafriol iawn arno, ac yn awr wedi darllen y gyfrol ei hun nid oes ond dywedyd Amen yn galonnog iawn i'r hyn a sgrifennwyd, oherwydd y mae Cwm Eithin yn waith eithriadol o ddiddorol a gwerthfawr. Ceir ynddo ddarlun byw iawn o ardal wledig yng Nghymru ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf, a rhyfeddais lawer at gyfoeth y darlun yn ei gyfuniad rhagorol o amlinelliad bras ac o tfanylion dirif. Ni ddywedir yn bendant ym mha Ie y mae Cwm Eithin, ond amlwg ydyw fod y Bala yn agos ato ac at Gwm Anibynia," lle magwyd yr awdur Dwg Mr. Evans o'i drysor luoedd o bethau newydd a hen, a hyfryd fydd troi eto i'r llyfr blasus yma i ddarllen tipyn am hen fywyd gwledig Cymru gyda'i arferion a'i ddiwydiannau coll a'i gefndir dymúnol, er caleted yr am- gylchiadau allanol i doreth trigolion y cymoedd yn y dyddiau hynny. Doniwyd yr awdur â phob math ar amhepgor i wneuthur llyfr íel hwn­cof gafaelgar, ei fagu gyda phobl mewn oed, medr i holi ac i sylwi i bwrpas, hel hen hanes- ion yn hobi ar hyd ei oes, cariad at y bobl a'r ardaloedd y sonia amdanynt ­ac at hyn i gyd y mae ei Gymraeg, tfel cynnwys y llyfr, o'r defnyddiau car- tref gorau. Dyledus ydym i Mr. Evans am lyfr o swyn gwirioneddol ac o werth arhosol, a thrueni na chodai ambell un tebyg iddo ymhob sir yng Nghymru i roi ar gof a chadw bethau a fydd wedi myned i ddifancoll llwyr, oni wneir hynny yn fuan. Y Bala. G. A. Edwabds. LLYFRAU'R FORD GRON: Cyfres o Drysorau'r laith Gymraeg. Wrec- sam fíughes a'i Fab. 6c. yr un. Mae'n sicr y bydd croeso calonnog i'r gyfres newydd hon o lyfrau bychain destlus yn cynnwys detholiad o glasuron ein llên. Golygydd y gyfres yw Mr. J. T. Jones, a cheir ganddo Ragair byr a golau i bob rhifyn. Gwasanaeth gwerthfawr i'r darllenydd cyffredin yw rhoddi iddo gyfle a chymorth i fwyn- hau trysorau'r iaith mewn cyfrolau na phair eu maint na'u pris ddim dychryn iddo. 1. Penillion Telyn yw'r rhifyn cyntaf. Da gan bawb fydd cael y casgliad cryno a threfnus hwn o hen benillion telyn. Ynddynt ceir y profiadau naturiol sy'n gyffredin i bawb wedi eu mynegi mewn iaith syml a chartrefol heb golli dim o angerdd y profiadau hynny. Fel y dywaid y Golygydd, blodau'r meys- ydd ydynt. Nid oes arnynt ddim 81 gwneud.' Gwlith sydd arnynt ac nid