Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE TRUTH OF CHRISTIANITY, being an Examination of the more im. portant Arugments for and against believing in that Religion. By Lt. Col. W. H. Turton, D.S.O. Weüs Gardner, Darton & Co., Ltd. 2/- net. Awgrymir amryw bethau lled eithriadol i'w dywedyd aan y gyfrol hon, hyd yn oed cyn ei darllen drwyddi. Yn un peth cyfrol ddiwinyddol,gan leygwr ydyw. Da yw gweld "un o'r tu allan" yn ymaflyd mewn tasg o'r fath, pa un bynnag a yw ei frodyr galwedigaethol yn fodlon i'w gymryd o ddifrif ai peidio. Gall edrych ar ei faes o safbwynt ychydig yn wahanol, ac y mae ganddo ddihewyd a diddordeb diwinydd. Swyddog milwrol 0 leygwr ydyw hefyd, yn ôl ei deitlau-dæbarth na chysylltir mohono yn rhwydd iawn ,gennym ag Efengyl a Chrefydd Tywysog Heddwch Drachefn, cyhoeddwyd y gyfrol hon gyntaif erioed yn y flwyddyn 1895. Er hynny daeth deg argraffiad arall ohoni allan, a'r olaf hwn yn 1931. A chyfieithiwyd hi i bedair iaith arall, ieithoedd anghyffredin Jlapan, Itali, China, a'r Arabic. Manteisiwyd ar bob argraffiad newydd i gywiro, grisialu, ac eglurhau hyd yn oed fanylion iaith ac ymadrodd, yn igystal â ffeithiau, nes ei gwneud mor berffaith-gwbl ag sy'n .bosibl i'r awdur. Rhaid ei fod yn neilltuol o amyneddgar, ac ymdrechgar i wneud ei feddwl yn ddealladwy i'r mwyafrif dibrofiad o'i ddarllenwyr, ac i osgoi'r posibilrwydd o'i gamgymryd mewn unrhyw osodiad. A chymwynas fawr gan y gwr hysbys yw dwyn y pell yn agos, a gwneuthur yr uchel a'r dieithr yn blaen a chlir- hyd y mae hynny'n bosibl. Ac ni ellir sgrifennu'n glir heb yn gyntatf feddwl i eglurdeb, yn enwedig ar bynciau sy'n gynhenid ddyrys. Ond y pennaf peth i'w ddweud am y gyfrol yw fod cynifer a adolygyddion o wahanol ganghennau o'r Eglwys gyffredinol yn cytuno i'w chymeradwyo mor wresog a diamwys, a hyd yn oed rai tu allan i'r Eglwys o gwbl. Dichon mai gwell .gan ambell ddarllenydd fuasai hepgor y tri tudalen, neu ragor, o farnau'r wasg a roddir yma yn nechrau'r gyfrol, yn dweud yn dda amdani. Hawdd i hynny godi gobeithion afresymol am y llyfr, ac i'r cyfryw gael eu siomi'n ddiweddarach. A rhaid wrth gryn fesur o wroldeb a sicrwydd deall i fynegi dim yn groes i dystiolaethau o ffynonellau mor amrywiol ac mor uchel eu hawdurdod. Dosberthir y barnau hyn, fel eiddo'r Wasg Fydol, llais Eglwys Loegr, Eglwys Rhufain, Presbyteriaid. Anghydffurfwyr, a'r Agnosticiaid. Gwae, weithiau, y gwr y dywedo pawb yn dda amdano. Ond felly y digwydd ynglŷn â'r rhai a ddetholwyd i'w gosod yma. Ac nid yn ochelgar a chymedrol y canmolir ychwaith. Nid ymddengys i'r awdur gelu dim er mwyn osgoi anghytundeb â beirniadaeth. Anfynych, yn enwedig gynt, y gwelsom y wasg Babaidd yn anturio cymeü aelodau'r Eglwys honno i ddar- llen a derbyn gosodiadau un heb fod yn Babydd. Cymeradwya'r Catholic Herald bab tudalen o'r llyfr!" Mae'r drafodaeth yn deg a diduedd, medd y Methodist Times a'r Unitarian Herald. Y mae'r awyrgylch yn y llyfr yn "lleygol iach," yn 61 adolygydd arall; ac nid yw'r awdur yn ymollwng i huodledd, eithr yn ystyrbwyll, yn mesur ei eiriau, dan ddylanwad cyson synnwyr cyffredin,