Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ceidwadol yw'r safbwynt; a haws bod yn ddidramgwydd i'r lliaws ar y tir hwnnw. Wrth fynd rhagddynt i gymdeithas y dirgelwch yr ymwahana ac yr ymbellhâ meddylwyr oddi wrth ei gilydd, ar bob cangen o wybodaeth. Ar gyfer dechreuwyr ond odid y bwriadwyd y Uytfr, ac y mae'n ddigon elfennol i'r rheini, ond yn rhoi golwg glir ar gyrrau'r maes. Y mae ffydd yn gynneddf, medd yr awdur, sef yn llygad yr enaid. Ac hebddi hi dall yw'r dysgedicaf i'r cyfrinion ysbrydol. Eithr nid yw ffydd yn oddefol: rhaid yw ei hym- arfer a'i chryfhau trwy ei gweíthredu-fe1 pob cynneddf arall, a gras hefyd. Tri phrif raniad y llyfr yw, Crefydd Naturiol, y Grefydd Iddewig, a'r Grefydd Gristnogol; a rhyngddynt syrth materion y drafodaeth i bump ar hugain o benodau. Dangosir ei chynnwys a'i rhediad ar flaen pob pennod. Italeiddir pob ymadrodd a ystyrir yn gofyn am bwyslais trwm. Adgrynhoir y prif bwyntiau, drachefn, ym mhennod olaf y llyfr. Ychwanegir mynegai manwl iawn o'r materion, ac hefyd un arall o'r cyfeiriadau Ysgrythurol lluosog. Rhwng popeth, anodd mefhu gweld yr hyn a olyga ef yn bwysig a hanfodol i'r ymresymiad. Ac y mae'r llyfr yn un neilltuol o rad. Pwy arall, heddiw, a feddyliai gyhoeddi llyfr sylweddol 0 500 tudalen am ddeuswllt! Ac heblaw corff, y mae i'r gyfrol olygus enaid, ac ysbryd hefyd. Cynorthwyir ni i feddwl ar faterion teilwng, a gosodir ni mewn mantais i fawrhau crefydd y Crist, a thrinir ein hysbryd yn ei hawyrgylch. Y mae nodd a bendith ynddi. Y Bala. T. R. JONES (Clwydydd). PATHWAYS TO CERTAINTY. By Wiüiam Adams Brown, Ph.D., D.D. Student Christian Movement. 254PP. 8/6. Ar yr wyneb-ddalen enwir dau lyfr arall o waith Dr. Adams Brown, sef Christian Theology in Outline, a Beliefs That Matter. Gwyr aml efrydydd diwinyddol am y cyntaf o'r ddau hyn, ac nid yw'r ail yn anhysbys chwaith. Atgoffa teitl y cyntaf ni am gyfrol o waith Dr. Newton Clarke, An Outline af Christian Theology, ac y mae rhywbeth hefyd yn ysbryd Pathways to Certainty a bair inni gofio'r argraff a adewid arnom wrth ddarllen gwaith Dr. Clarke; ceir yn y naill a'r llall ryw lyfnder ymadrodd hyfryd a'n cluda ymlaen yn esmwyth. Tybed a yw hyn yn un o nodweddion arbennig ysgrifen- wyr gorau'r America ym myd diwinyddiaeth? Os yw, y mae iddo fanteision ac anfanteision. Adroddir ym Meirion sylw brawd craff o flaenor un bore Llun, wedi iddo wrando'r Sul un o wyr amlycaf y Corff, gwr oedd ar y pryd yn fugail yno. Daeth rhywun na chlywsai'r gweinidog hwnnw'n pregethu, a gofyn i'r blaenor pa fath bregethwr ydoedd. Yr ateb a roddwyd oedd ei fod tfel ffos y felin. â digon o ddwr ynddi, ond 'does dim dichon cael llymaid iawn ganddo, y mae'n llenwi ffroen dyn wrth fynd mor gyflym." Nid yw'r gyfrol hon yn hollol felly; ond y mae'n ddigon anodd cael tamaid neu lymaid da ohoni am fod yr awdur yn mynd yn ei flaen o'r naill beth i'r llall mor rhwydd. Fe hoffai darllenydd iddo hanner tagu yn rhywle, er mwyn iddo ef gael ei anadl ato. Ac eto dylid prysuro i ddywedyd mai llyfr gwych yw hwn,