Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chwanegir ar y diwedd restr ddau o lyfrau eraill y gellir eu hefrydu ar yr amrywiol bynciau a drafodir yma; a daw Mynegair gweddol lawn ar ôl hynny. Gellid efallai chwanegu cyfeiriadau eraill at gynnwys y Mynegair sylwasom y crybwyllir Humanism ar dud. 213 yn ychwanegol at y tudalennau a nodir a gellid rhoi td. 233 hefyd ar gyfer Science, neu Scientists. TRAMPING THROUGH WALES In Search of the Red Dragon. By fohn C. Moore. 212 pp. London J. M. Dent and Sons Ltd. 1931. 6/- net. Dyma lyfr ag iddo lawer o swyn ac o ragoriaethau, ac ar y llaw arail swm nid bychan o chwerwder ac o rywbeth tebyg i annhegwch, gyda hafyd rai pethau ynddo y byddai'n well gan ddyn beidio â sôn na meddwl amdanynt am nad ydynt ymadroddion iachus. Dyn ieuanc tair ar hugain oed yw'r awdur; ef ei hun a ddywaid hynny. Cyfeiria ar y diwedd at nofel a sgrifennodd pan nad oedd ond 19 oed; a gwelir ar yr amlen bapur rydd a roddir am y llyfr iddo gyhoeddi ail nofel, ac y dyry'r adolygwyr ganmoliaeth mawr i'r naill a'r llall ohonynt. Gloucestershire yw bro ei enedigaeth, ond yn Ross-shire, yn yr Ysgotland, y sgrifennodd y llyfr hwn am ei daith haf drwy Gymru yn 1931. Y mae'n ddyn chwe troedfedd o daldra yn ôl ei ddisgrifiad ohono'i hun, a gellid chwanegu rhagor amdano'n bersonol, pethau a bair i bawb ei hoffi. Y mae gan Mr. Moore lawer o gymwysterau i sgrifennu hanes ei deithiau. Medd ddull hapus, ddigwmpas, a llithrig. Câr unigrwydd mynydd, adwaen adar a llysiau dirif. Gwyr hefyd ychydig o Gymraeg a rywsut cymer y Cymro at bawb a ,gais ddysgu ein hiaith, er iddo fethu â'i meistroli. Y mae ganddo rai tudalennau gwych yn y llyfr hwn, rhai llawn hiwmor o'r fath orau, megis ei ddisgrifiad o'r Ysgotyn o Glasgow a gyd-deithiai ag ef tua Llan- deilo; chwardd pob darllenydd nes ysgwyd wrth ddarllen hwnnw. Y mae'n ddigon gonest hefyd i ddweud sut y "igwmaed" ef ar Gadair Idris gan ddwy ferch o New York, ac i fwynhau sôn am hynny. Ac y mae'n werth darllen ei deyrnged i Dalyllyn a phobl y Ue yn ogystal â'r rhai ddaw yno y naiH flwyddyn ar ôl y llall yn gyson. Ond ni chyll gyfle i wawdio crefydd a dirwest y Cymro. Fel George Borrow cwrw yw un o dduwiau'r awdur, a gwae'r neb na'i disycheda neu ei borthi, hyd yn oed allan o amser boed Sul, >gŵyl neu waith. Ymffrostia yn ei waith yn rhegi yngwydd plismon ar y stryd yng Ngholwyn Bay am na chai steak yno ar y Sul, heb gofio mai deddf y wlad yw'r cau ar y Sul. Y mae crefydda'n destun dirmyg iddo, ond yfed hyd yn oed i ormodedd yn beth digon parchus yn ei olw,g. Y gwyn bennatf sydd gennym yn ei erbyn ar y materion hyn yw eá fod yn unllygeidiog, ac felly'n annheg iawn weithiau. Condemnia'n ddidrugaredd saerniaeth ein capelau, ac yna bwrw ei lysnafedd arnom am na baem fel y Sais. Wel, y mae llawer o'n haddoldai'n wael eu gwedd; ond nid poíb un ohwaith. Rhyfedd na welodd ambell hen eglwys dlos os yw'r oapelau'n ffieidd-dra yn ei olwg. Gwelir pa fath yw ei safon wrth y ffaith fod Bodelwyddan yn ei foddhau i raddau; ac y mai'r hyn a gronicla am eglwys gadeiriol Llanelwy yw ei bod fel plentyn bach a gyfodir ar ysgwydd rhyw