Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Athrawiaeth y Drindod.* i A YW'R datguddiad hanesyddol o Dduw yng Nghrist yn ein galluogi i wneud datganiad ynglyn â bywyd a natur fewnol y Duwdod tragwyddol, cyffelyb i'r un a geir yn nogma'r Drindod yng nghredo swyddogol yr Eglwys ? Dywedodd y Dr. John Caird mai'r Drindod yw syniad gwahaniaethol Cristnogaeth am Dduw,"t a mynych y dywedwyd mai hon yw athrawiaeth syl- faenol ein crefydd. Naturiol ydoedd i John Caird ddywedyd hyn, oblegid Hegeliad oedd ef o ran ei safbwynt athronyddol. Ac i feddylwyr o'r ysgol honno, fel i Hegel ei hun, yr oedd y syniad o Drindod yn dra chydnaws-er nad oeddynt yn gaeth o gwbl i ffurf eglwysig yr athrawiaeth-pe na bai ond am y rheswm ffurf- iol (yn ogystal ag am resymau eraill pwysicach) fod y syniad yn ffitio i mewn mor daclus i ffrâm fformiwla driphlyg y gyfundrefn Hegelaidd, sef thesis, antithesis, synthesis, neu gosodiad, gwrth- osodiad, cyfosodiad. Ond ceir eraill heblaw Hegeliaid yn dal mai athrawiaeth y Drindod yw hanfod y ffydd Gristnogol. Yn wir, fe â "Credo Athanasius (fel y'i gelwir) mor bell â haeru'n ben- dant fod credu'r dogma hwn, yn y ffurf a roddir iddo ynddi, yn hanfodol er iechydwriaeth, ac "y collir yn dragywydd" y neb a feiddio ei hamau. Y mae'n ddiamau mai yn yr athrawiaeth hon y cyrhaeddodd y ddiwinyddiaeth Gristnogol ei ehediadau mwyaf uchelgeisiol mewn Digon tebyg na cheir yn y ddwy ysgrif hyn ddim o bwys yn wahanol i'r hyn a geir yn y bennod ar y DTindod yn fy llyfr Bannau'r Ffydd. Ond nid edrychais ar y bennod honno oddi ar pan ddarllenais y proflenni, agos i dair blynedd yn ôl. Meddyliais yr hoffwn tfynd dros y maes o'r newydd, a hynny hab ymgynghori â'.r hyn a ysgrifennais o'r blaen. ÌFundamentaì Ideas af Christianity, Cyf. i., td. 58.