Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Troedio'r Mân-Ffyrdd gyda'r Hen Bregethwyr AM bregethwyr olaf y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bed- waredd ar bymtheg gyda'r Pedwar Enwad y ceisir ysgrifennu yma. Darllenais wmbredd amdanynt mewn cofiannau ac yn Hanesion yr Enwadau y blynyddoedd diwethaf. Fy amcan syml yn hyn o lith yw crynhoi ynghyd ychydig o argraffiadau a wnaed arnaf wedi treulio ohonof amser maith yn eu cymdeithas; ond tueddwn i'w canlyn nid ar hyd y priffyrdd llydain a llyfn, ond yn hytrach ar hyd y mân ffyrdd mwy lleidiog, anhygyrch a di-sathr, He ceir ond odid fwy o drasiedi a chomedi. Ceisir taflu ychydig o sidelights ar eu harferion a'u helbulon, eu hawddfyd a'u hadfyd. I Cawn mai o gartrefi tlawd a chyffredin y daeth y mwyafrif o broffwydi Cymru. Tra ceir ambell un fel Thomas Jones, o Ddin- bych, yn fab i wr oedd yn byw ar ei dreftadaeth ei hun, Pen Ucha, Caerwys, ac mewn amgylchiadau cysurus, ceir llawer fel Dr. Thomas Rees, Abertawe, yr hwn a anwyd mewn bwthyn bychan ym mhlwyf Llanfynydd, sir Gaerfyrddin, am yr hwn y dywaid ei gofiannydd na anwyd erioed fachgennyn â llai o obeithion a disgwyliadau wrtho. Chwarter o ysgol ddyddiol yn unig a gaf- odd, ond dringodd i'r safle uchaf yn ei enwad; etholwyd ef yn Llywydd Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Chymru, ysgrifennodd Hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru," a golygodd gyda'i gyf- aill mynwesol, y Dr. John Thomas, Hanes Eglwysi Annibynol Cymru." Yn y Weinidogaeth Gymreig ceir llawer fel Dr. Rees a ddaeth i fyny o ddinodedd a thlodi i gyhoeddusrwydd a def- nyddioldeb mawr. Pregethodd John Breese ei bregeth gyntaf yn Llanbrynmair yn ei glocs a'i smockfrock neu grysbais. Mewn tlodi dygn ar hyd eu hoes y bu llawer a ddaeth yn enwog. Dyna'r "hen broffwyd," Edmund Jones, Trans, l^ontypŵl, a gyd-oesodd a'r ddeunawfed ganrif bron ar ei hyd,-ni welodd ond ychydig o dda'r byd hwn. Rhoddes ddeg punt ar hugain o'r unig ddeugain punt oedd ganddo ar ei elw at adeiladu capel Eben-