Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fy Myd. Nid oes neb yn edrch ar fyd yn union yr un fath â'i gilydd, ac eto gresyn a fyddai i neb ymatal rhag mynegi ei olygiad ei hun. Caewyd twrr o blant mewn ystafell un canol dydd, ac wedi eu gollwng yn rhydd, gofynnwyd i bob un ohonynt ysgrifennu i lawr enwau pob peth a oedd ynddi. Dim ond yr hyn a welsent a gafwyd gan bob un ohonynt. A aeth yr oes i bwyso ar y llygad gan esgeuluso'r synhwyrau eraill? Nid enwodd un ohonynt y goleuni na'r llygad a'i gwnai'n bosibl iddynt weled o gwbl. Gwa- haniaethai rhestr pob plentyn. Y mae bylchau yng ngwelediad pawb ohonom, ac felly nid yr un peth a welwn. Fel dyn, ac Anghydffurfiwr, hawliaf y fraint o fynegi'r hyn a welaf, ac ni omeddir hynny imi gan oes ddemocrataidd. Yr anocheladwy, rhaid yw i mi edrych ar bethau fel pregethwr gyda'r Anghydffurfwyr. Ni fedraf ddianc oddi arnaf fy hun, fy nghar- tref, a'm crefydd. Cymro glân ydwyf, a bydd hynny'n amlwg ar yr hyn a ddywedaf. i Ni fwriadaf ddywedyd ond ychydig am fyd fel y golyga am- gylchiadau. Ysywaeth aeth yr awydd am fyw uwchlaw ein byd a'n cynysgaeth yn bla arnom, ac o'i ôl dilynodd y dyhead am ormod pleser, nes difa cyflog rhy brin y gweithiwr tlawd. Sylwais fod rhai economyddion yn annog inni oll wario fel y ffordd effeith- iolaf i dreiglo arian, ac felly i greu gwaith. Gelwir hyn gan economyddion eraill yn ffolineb. Anhawdd i mi ydyw peidio â chytuno â'r olaf. Rhesymau moesol sydd gennyf dros hynny hefyd. Gwn na ddylai neb fyned i ddyled os medr osgoi hynny, oblegid effeithia ein dull o fyw ar ein cymeriad. Dyna fy ngofid ynglyn â'r ieuanc sydd yn methu â chael gwaith. Aeth Prydain yn afradlon, ac effeithiodd hynny ar y byd. Dirywiodd cymeriad y bobl nes colli'r awydd a'r gallu i dalu ein ffordd, heb sôn am gasglu gwaddol. Efallai bod y trethi trymion a'r wasgfa gyff-