Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Charles Prestwich Scott (1846-1932) I Un o bapurau dyddiol parchusaf y deyrnas hon ers amser maith yw'r Manchester Guardian. Ac un rheswm am hynny oedd gallu, craffter, gonestrwydd, cysondeb, a boneddigeiddrwydd y di- weddar Olygydd, C. P. Scott. Perthynai iddo ef wahanfodaeth, ac annibyniaeth iachus: creai ar ei ddelw ei hun, a ffurfiai awyr- gylch yn ei swyddfa. Trwyddo ef meddai'r papur gymeriad a phersonoliaeth hysbys a neilltuol. Treiddiai ei ddylanwad hyd at ei isafiaid ar y staff, ac yr oedd hyd yn oed ei gysgod yn iachau. Meddai argyhoeddiadau sefydlog, ac ni siglid ei farn gan ofnau ynghylch poblogrwydd a llwyddiant materol. iMtedrai noddi achos amhoblogaidd, pan enillid ei gyd- ymdeimlad. Arwain, ac nid dilyn, a wnai. Daeth i gyfathrach agos â gwladweinyddion pennaf gwahanol bleidiau'r wlad. Ym- gynghorid ag ef beunydd ar faterion o bwys, yn wladol a rhyng- wladol; ac ni lesghai nes dwyn barn i fuddugoliaeth. Nid oedd cymrodedd meddal yn ei natur: nid trwy ildio iddi y gwasnaethai ei genhedlaeth. Meistr oedd yn gwasnaethu. Cymerai hamdden i ffurfio barn gytbwys, edrychai ar bob tu i'r ddalen, mantolai resymau, a glynai wrth ei ddelfrydau a'i egwyddorion. Ni frysia yr hwn a gredo, a chredai Scott yn ei gred ei hun. Mae gan yr hwn a wyr fod y da yn drech na'r drwg, y gwir na'r gau, a'r syl- wedd na'r ffurf,-mae ganddo amynedd i aros am gyflawnder yr amser, ac am awr arfaethedig llwyddiant. Ac wrth gofio bod etholaeth Scott mor eang, derbynwyr ei bapur mor lluosog, a chynifer yn darllen newyddiadur â nemor ddim arall, hawdd yw sylweddoli bod dylanwad y fath un, yn y fath safle, braidd yn an- nherfynol. Cyfeiriad cyson y gwynt sy'n penderfynu gogwydd y goedwig, yn fwy na'r stormydd achlysurol; rhediad beunyddiol yr afon sy'n ffurfio a dyfnhau ei gwely; a'r golygiadau a dderbyn o ddydd i ddydd sy'n troi yn y man yn argyhoeddiadau sicr i ddyn. Ac nid ei gronicl yntau o newyddion amryfath yw cymer- iad nodweddiadol y Manchester Guardian, eithr ei lithiau arwein-