Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau. PSYCHOLOGY AND GOD. Bamfton Lectures 1930. By the Rev. L. W. Grensttd, M.A., D.D. Longmant Green & Co. pp. xi. +257. 10/6. Traddodwyd cynnwys y gyfrol hon fel Darlithoedd Baonpton am 1930 ym Mhrifysgol Rhydyohen, ac y maent o ddiddordeb arbennig i efrydwyr diwin- yddol,-ac yn wir i bawb a ymddiddora mewn crefydd-yn gymaint ag y ceis- iant ganfod ym mha ffodd yr effeithia Seicoleg ddiweddar ar y syniad am Dduw. Gan fod y Dr. Grensted yn athro Athroniaeth Crefydd yn Rhydychen, y mae'r darlithoedd o ddiddordeb a phwys arbennig, canys gwelir ynddynt pa fodd y tuedda diwinyddion un o'r hen Brifysgolion i feddwl am berthynas Crefydd a Diwinyddiaeth ag un o'r gwyddorau sy'n datblygu'n rhyfeddoteo gyflym y dyddiau hyn. Nid yw Dr. Grensted o nifer y rhai hynny sy'n meddwl nad oes gan Seicoleg ddim i'w ddywedyd ar Grefydd; eithr yng nghwrs datblygiad ei argiwment y mae'n anodd peidio â theimlo bod ei feddwl yn ansefydlog ar y pwnc hwn, ac o ganlyniad nad yw ei osodiadau'n gwbl gyson â'i gilydd yn y gwahanol benodau. Ebr ef yn y Rhaglith, Y mae fy nisgybl- aeth a'm gwaith ifel athro coleg yn gorwedd ym maes Diwinyddiaeth. Mewn Seicoleg ni allaf hawlio ond yn unig ran edrychydd (spectator) sy'n ymddi- ddori ynddo, oblegid ei anghenion ei hun ac anghenion y rhai hynny a osod- odd arnaf y cyfrifoldeb a'r anrhydedd o gyfranogi o'u problemau a'u pryderon, — ac yn ymddiddori oblegid, fel y mae'n ymddangos, /bod amheuaeth ar led a phenbleth ynglyn â bearings y pethau hyn ar y Ffydd (Rhaglith, vii.). Teimla i'r byw fod amryw o ragdybiau llawer o lyfrau a sgrifennir ar Seicoleg yn tueddu naill ai i wanhau sylfeini ffydd neu i ostwng lefel gwareiddiad Cristnogol." Gwyr nad oes gan neb obaith allu cwmpasu holl ddatblygiadau Seicoleg; eifhr y mae'n bwysig anghyffredin ceisio deall rhywbeth am y berthynas sydd rhwng Seicoleg a Chrefydd, ac yn enwedig yr hyn a ddywedir gan y wyddor am y pwnc sylfaenol, y Bod o Dduw. Wyth o benodau sydd yn y llyfr, yn dwyn y teitlau a ganlyn (i). Rhai egwyddoriom sylfaenol Seicoleg. (ii). Y cyfrif a rydd Seicoleg am Grefydd (iii). Ffydd ac Addoliad. (iv) Iacháu Ysbrydol a Phroses Seicolegol. (v). Pechod a Chyfarwyddyd Ysbrydol. (vi). Seicoleg y Fintai a'r Eglwys. (vii). Gwrthrychaeth (Objectively) mewn Crefydd. (viii). Hawl (Claim) Theistiaeth Gristnogol. Nid yw'r argiwment yn symud yn esmwyth; y mae'n jerhy yn fynyoh iawn ac yn troi o'r neilltu bwyntiau sylfaenol yr hoffid gweled ychydig o drafodaeth ychwanegol arnynt. Eithr y mae'r llyfr yn un gwerthfawr; dengys ôl darlltn eang, ac ymdeimlad byw iawn o'r anawsterau sy'n wynebu crefydd o gyfeiriad gwyddoniaeth ddiweddar, ac ymgais wrol a gonest i gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Criat."