Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

blaid ei amcan, fe'i derbyn ac fe'i datblyga; eithr lle na byddo'r dystiol- aeth mor ffafriol, tuedda i ddiogelu ei amcan drwy ei symud yn gyfangwbl y tu allan i derfynau'r wyddor. Diffyg trylwyredd gwyddonol sy'n cyfrif am hyn. Petai'r awdur yn fwy beirniadol ar gasgliadau Seicoleg diweddar, ond odid na chynorthwyai hynny ef i ddwyn y ddeubeth at ei gilydd. Gallai hynny ddigwydd yn rhwydd a chaniatáu iddo hefyd ddadlau'r un pryd nad gan Seicoleg y mae'r gair olaf i'w ddywedyd ar bwnc gwerth a gwirionedd yr honiadau cretfyddol. Mater o Athroniaeth fetaffisegol yw hynny, ac ar y tir hwnnw y dylid trafod y pwnc. Os cedwir yn glir y gwahaniaeth sydd rhwn½g prosesau seicolegol a gwrthryohau'r prosesau hynny, byddai hynny'n gryn gynorthwy tuag at symud yr ansicrwydd ac yn wir yr anghysondeb hwnnw sydd i'w ganfod yng ngwaith Dr. Grensted. Y mae'r llyfr yn un pwysig a gwerthfawr, ac yn un a gymhellir yn galonnog at sylw pob un a fyn wybod rhywbeth 1 bwrpas ar agweddau ar dyfiant Seicoleg yn ddiweddar. Fe'i sgrifennwyd gyda gwybodaeth eang iawn o Seicoleg ac o Ddiwinydd- iaeth, a byddai ei ddarllen yn arweiniad gwerthfawr i faes y dylai pob gwein- idog yn yr Eglwys Gristnogol ymgydnabyddu ag ef. Harltch. D. JAMES JONES. YR HEN DESTAMENT-Ei gynnwys a'i Genadwri. Gan yr Athro Thomas Lewis, M.A., B.D., Coleg Coffa, Aberhonddu. Caerdydd: Gwasg Prif- ysgol Cymru. 1931. 2/6. (Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Rhif 8). Da gennym groesawu yn gynnes y gyfrol hon, sef yr wythfed o Gyfres y Brifysgol a'r Werin," a chredwn y bydd ei hymddangosiad yn gymorth mawr i efrydwyr ein colegau, ac i ddeiliaid ein Hysgolion Sul, i ddeall yn well Ysgrythurau'r Hen Destament, a sylweddoli yn gliriach werth a chyfoeth eu cynnwys, yng ngolau damcaniaethau diweddar," fel y dywaid yr awdur, ac fel hanes hunan-ddatguddiad Duw trwy'r genedl a roes y syniad uchaf am Dduw a Chrefydd i'r byd." Cynnwys y llyfr naw o benodau, anghytfartal iawn o ran hyd, yn amrywio o naw tudalen ar hugain yn y bumed bennod i bedwar tudalen yn unig yn y seithfed bennod; a'r bennod hwyaf hon ar y Pum Llyfr yn cael ei dilyn gan bennod arall o dri thudalen ar ddeg ar un o'r llyfrau hynny, sef Deutero- nomium tra y bodlona'r awdur ar lai na phedwar tudalen i drafod Llyfr y Salmau, y dywaid etf ei hunan amdano nad oes lyfr yn yr Hen Destament a chymaint o ddarllen arno na hwn. Buasai ymdriniaeth lawnach ar lenydd- iaeth ddefosiynol y Salmau ac ar Lenyddiaeth Doethineb (neu athronyddol) y genedl yn ohwanegu llawer at werth a buddioldeb y llyfr. Yn y bennod gyntaf pwysleisir yn briodol yr angen am drefnu'r llyfrau yn ôl adeg eu cyfansoddiad cyn y gellir dilyn tyfiant a datblygiad bywyd crefyddol y genedl," gan mai hunan-gofiant cenedl ydyw'r Hen Desta- ment, a llawer cenhedlaeth wedi bod â llaw yn ei gyfansoddiad." Gwerth. fawr hefyd ydyw yr arbenigrwydd a roddir yn yr un bennod ar werth yr Hen Destament i wahanol ddosbarthiadau o ddynion; sef, (1) i'r hanesydd, am fod hanes y genedl yn rhan o hanes cyffredinol y byd; (2) i efrydydd crefydd-