Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn rhoddi hanes cymryd Ai, a'r adrannau o'r hanes am benodi brenin a geir yn llyfr cyntatf Samuel. Yn y bennod olaf, ar "ddatguddiad cynhyddol," rhoddir Ue amlwg i'r syniad o barodrwydd a chymhwyster dyn i ddarganfod yr hyn a ewyllysia Duw ei ddatguddio iddo, a hyn a .gyfritf am yr elfen o gynnydd yn y datguddiad, ac nid amharodrwydd o du'r Hollalluog i roddi'r datguddiad cyflawn i ddyn ar unwaith. Ond cyfynga'r awdur ei sylw yn y bennod yn unig i ddatguddiad graddol Duw ohono ei hunan, heb ymdrin ar gynnydd y goleuni a rydd y datguddiad cynhyddol yma o Dduw ar broblemau eraill dyrys a thywyll per- thynol i'n crefydd, megis anfarwoldeb yr enaid, atgyfodiad y corff, y sefyllfa ddyfodol, bodolaeth angylion, ac felly yn y blaen. Hyderwn yn fawr y cawn gyfrol arall yn fuan gan yr awdur ar y cwestiynau hyn a'u tebyg; a thu ag at hynny, dymunwn gylchrediad eang i'r gyfrol bon, ac astudiaeth fanwl ohoni gan ddosbarthiadau a chan bersonau unigol. Teimlwn yn dra diolchgaT i'r Athro dysgedig am ,gyfoethogi ein llenyddiaeth Gymraeg â'r Uyfr gwerthfawr hwn. Y Rhyl. G. Pabsy WILLIAMS. YR EPISTOL AT YR HEBREAID, gyda Nodiadau Eglurhaol gan y Parch. W. R. Williams, M.A., Aberystwyth. Caernarfon: Llyfrfa'r Method- istiaid Calfinaidd. 1932. 3/6. FeJ yr arddengys y teitl, un o lawlyfrau Cyfundeb y M.C. ar gyfair yr Ysgolion Sul ydyw hwn, ,gwaith yr Athro W. R. Williams, M.A., Aberystwyth. Ceir yn y gyfrol ragarweiniad a gymer 38 tudalen, ac esboniad ar y testun a gwblha'r gyfrol hylaw a destlus, y cwbl yn 263 o dudalennau. Nid oes brin- der esboniadau Cymraeg ar yr Epistol at yr Hebreaid, a chymer gwaith yr athro llednais a dysgedig o Aberystwyth ei le'n hapus a chartrefol yn eu plith. Cydnebydd Mr. Williams ei ddyled i gyfrol y diweddar Thomas Rees trwy ei dyfynnu amryw weithiau, ond mae ei rwymedigaeth i T. Charles Edwards yn fwy o lawer, gallwn dybio, nag i'r esbonwyr eraill o bob iaith gyda'i gilydd. Ai doeth o ran arddull ydyw cysylltu Dr." neu y Dr." bron yn ddieithriad ag un o'r anfarwolion, er na cheir onid eu henwau pan sonnir am Peake, West- cott a Davidson? A'r un modd am y byw-Scott, Deissmann, Moffat, etc. Mae'r gwaith yn waith glân a chryno, ond synnir ni gan y gosodiad, Nid yw'r awdur yn gyfritfol am yr orgraff ond mewn rhan yn unig." Prin y mae hyn yn foddhaol ar adeg pan osodir cymaint pwys ar yr orgraff. Ond gad- awaf y mater hwn yn nwylo Piwritaniaid yr iaith gyda sylwi bod arddull yr athro'n syml ac eglur a'i ymadrodd yn gwbl ddealladwy. Trinir y pynciau arferol yn y Rhagarweiniad mewn dull teg ac ysgolheig- aidd heb ormod o fanylder. Ar fater awduraeth yr Epistol, ar 61 ystyried ohono'r gwahanol tfarnau, Uecha'r Athro yng nghysgod Origen a ddywedodd mai Duw yn unig a wyr pwy a ysgrifennodd yr Epistol." Prin y teimlwn i Mr. Williams roddi digon o Ie i ddamcaniaeth Harnack. Mae mwy i'w ddy- wedyd drosti nag a ganiateir gan yr Athro. Rhaid cofio iddi apelio at Peake, ac i'r Dr. Rendel Harries sgrifennu o'i phlaid heblaw ychwanegu rhai rhes- vmau go gryf at y rhai y dibynasai Harnack arnynt.