Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r nodiadau esboniadol yn hynod werthfawr. Ceisia Mr. Williams wneuthur dau beth: (i) rhoddi i'r darllenydd syniad am rediad yr ymresym- iad; (2) egluro rhai o ymadroddion mwyaf dyrys yr Epistol." Ni ellid cael gwell amcanion, a llwydda'r awdur i'w cyflawni ymhob rhan o'r maes. Hoffwn 1 gynllun. Rhoddir aralleiriad esboniadol ar ddechrau pob paragraff, ac wrth hyn caiff y darllenydd gyfle i feddu syniad eglur am gynnwys pob adran. Y pery.gl mewn llawer i esboniad ydyw i'r darllenydd ymgolli mewn manion a methu â gweled y goedwig yn amlder y coed. Osgoir y perygl hwn gan gynllun Mr. Williams. Lie bo gwahanol farnau, rhydd y awdur ei Ue i bob un yn deg a diduedd. Darllenasom ei nodiadau ar rai o ddarnau mwyaf ac anhawddaf yr Epistol, ac nid rhaid i'r disgybl yn y dosbarth fethu ei ddilyn yn unman. Mantais a fuasai nodi enwau a theitlau Uytfrau ar yr Epistol fel y gallai pobl ymgynghori â hwy ymhellach. Nid digon yw nodi barn Inge neu Scott. Dylai pob llyfr o faint hwn gynnwys mynegai. Diolchwn i'r athro am ei lyfr, a Uomgytfarchwn ef yn galonnog ar lwyddiant ei waith. Abtrhonddu. JoSEPH Jones. YR EPISTOL AT YR HEBREAID: Cyfieithiad Newydd. Caerdydd Gwasg Prifysgol Cymru. 1932. Wythgeiniog. Efallai mai'r ffordd orau i tfarnu gwerth y cyfieithiad newydd hwn (X), gwaith chwech o wyr yng Nghaerdydd, fydd gosod darnau ohono ochr yn ochr â'r hen un (H.). Cymerer i gychwyn ddau baragraff adnabyddus (1. 1­3; 7. I8—I9). Mewn llawer darn ac mewn lawer dull yn yr amser gynt y llefarodd Duw wrth y tadau yn y proffwycfí yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym ni mewn mab. Hwn a osod- odd ef yn etitfedd popeth, a thrwy hwn hefyd y gwnaeth y cyfantfyd. Hwn, ag yntau'n llewyrch ei ogoniant ef, ac yn argraff ei sylwedd ef, ac yn cyn- nal popeth drwy air ei allu ef, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eis- teddodd ar ddeheulaw y mawrhydi yn yr uchelion. Oherwydd y mae yma ddiddymiad ar hen orchymyn am ei fod yn ddi- rym a di-Ies-canys ni ddaeth y gyf- raith â dim byd i ben—ond dygir i mewn, yn ei le, obaith gwell, yr ydym drwyddo yn nesau at Dduw. N. H. Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab Yr hwn a wnaeth efe yn etitfedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: Yr hwn, ac efe yn ddis^leirdeb ei ogoniant e/, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eis- teddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y .goruwch-leoedd. Canys yn ddïau y mae dirymmiad i'r gorchymyn sydd yn myned o'r blaen, o herwydd ei lesgedd a'i afles. Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith ,gwell i mewn a berffeithiodd trwy yr hwn yr ydym yn nesâu at Dduw.