Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

11e eu goresgyn (n. 33). Ond, wedi troi at y gwreiddiol, gwêl y darllenwr yn fynych paham y hu'r newid, ac os yw'n anghytuno, dylai awgrymu rhyw- beth cywirach Weithiau y mae'r hen gyfieithiad cyn ffyddlonned i'r gwreiddiol â'r newydd a thipyn hapusach ambell dro (e.e. 2. 9; 3. 5 3. 12; 4. 4, 10; 6. 11; 8. 7; 11. 9). Ond y mae'r cyfieithiad newydd yn ystwythach lawer na'i ragflaenydd ac y mae'n darllen yn naturiol dros ben. (Cf. i gymryd un 0 luoedd o enghreifftiau, 10. 39, adnod David Williams: "Eithr ni, nid pobl yn cilio'n ôl i golledigaeth ydym, ond pobl y ffydd i feddiant o'r enaid "). Un o'r llyfrau mwyatf anodd i'w gyfieithu yn y Testament Newydd yw'r Epistol hwn. Y mae ei Roeg yn llyfnach a chyfoethocach lawer na iaith Epistolau Paul, a hawdd y gwelid oddi wrth hyn yn unig, ys dywedodd Origen gynt, nad Paul yw ei awdur. Soniodd Dr. Moffatt yn ein dyddiau ninnau am ryddiaeth odidog yr Epistol at yr Hebreaid, a daw hynny i'r golwg droeon wrth ddarllen y cyfieithiad hwn. Y gwir yw fod cyfieithiad da yn esboniad ynddo'i hun, ac os barnwn yr ymgais hwn wrth y safon uchel yma, y mae'n amlwg ei fod yn gyfieithiad diogel a rhagorol iawn. Y Baìa. G. A. EDWARDS. THE REVELATION OF DEITY, by E. Turner, U.A., Ph.D., Lẁerfool. George Allen and Unwin, Ltd. 224 pp. 10/6. 1931. Y mae'n hollol amhosibl osgoi cyfeiriad at ddau o weithiau blaenorol y Dr. J. E. Turner, sef ei Personality and Reality, a'i Nature of Deity, er yn ddiau y geUir astudio'i gyfrol olaf ar ei phen ei hun. Fe geir yn y llyfrau uchod linell bwysig o ymresymiad sydd yn cyrraedd ei huchafbwynt nid yn unig yn y ddamcaniaeth bod y cyfantfyd yn hawlio bodolaeth Duwdod llywodraethol, eithr yn y casgliad pellach fod Duwdod o gymeriad arbennig, sef yn Hunan neu yn Bersonoliaeth sydd, fel y cyfryw, yn feddiannol ar nodweddion hunan- ymwybyddiaeth. Y mae'n wir yr amlinellir gan yr awdur yn ei lyfr diweddaraf, The Revela- tion o) Deity, a hynny mewn ffordd Ued gyflawn hefyd, y gwahanol ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddo yn y gorffennol i geisio ei safbwynt athronyddol yng- hylch, yn ½bennaf, y drychfeddwl o Bersonoliaeth o'i gymhwyso at Dduw a dynion. Ond er hyn oll tueddwn i farnu bod efrydiaeth fanwl a gwerthfawr- ogol a'r cyfrolau blaenorol yn fwy tebygol o arwain y beirniad i wneuthur cyfiawnder llawn a'r awdur, fel athronydd o radd uchel ac fel meddyliwr gof- alus a threiddgar, na phes cyfyngid i'r llyfr diweddaraf hwn. Yr ydym yn bersonol o'r farn onest fod gwir werth yr olatf yn gorwedd yn yr ail-adroddiad o'r dadleuon a'r ymresymiadau a berthyn i'r safbwynt oedd wedi ei gyrraedd eisoes, yn hytrach nag yn yr hyn a fwriedir i fod yn nodweddiadol o'r sefyllfa bellach yr ymgeisia'r awdur ei sylweddoli. Y mae ei syniadau am Bersonoliaeth, ddwytfol a dynol, yn gynhwysfawr a chyfoethog i'r mesur eithaf, ac yn ein hatgofio yn fyw am ddysgeidiaeth Lotze ar yr un pwnc; hefyd y mae ei ddull o ddehongli'r Duwdod yn nhermau'r drvchfeddwl hwn yn rhagorol ac yn feistrolgar. Cyfaddefwn ymhellach mai