Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

anrhydedd yn perthyn iddi; ac oddi wrth y sylw hwn fe dynn y casgliad fod y Person Mawr yn ddiau o dan orfodaeth i gynorthwyo personau eraill yng ngwasanaeth y delfrydau moesol. Ond ymddengys i ni mai un ochr i wir- ionedd mawr sydd yn gysylltiedig â pherthynas Person a phersonau ydyw hwn. Y mae ochr arall i'r mater sydd yn cael ei hanwybyddu yma. IV Parthed y rhan sydd yn ôl o'r gytfrol, ni hoffwn amlhau geiriau. Rhuthra'r awdur rhag ei flaen i ymdrin â chwestiynau sydd o nodwedd neilltuol a chyf- yngedig. Yma eto fe ddywed lawer o bethau rhagorol iawn, a wyneba rai cwestiynau lled anodd. Er enghraifft, gofyn paham nad oedd y datguddiad arbennig mewn hanes yn ddatguddiad cyflawn o safbwynt gwybodaeth a chelf ? Yr ateb a rydd i'r cwestiwm hwn yw am y byddai datguddiad o'r fath yn annealladwy. Yn annealladwy i drigolion gwlad fechan mewn cyfnod ar- bennig yn ei hanes a olygir yn ddiau. Ond onid oedd y datguddiad hwn, fel datguddiad moesol, yn annealladwy hefyd i bob pwrpas ymarferol i'r mwyafrif o'r bobl hyn, ac i'r mwyafrif mawr o ddynion hyd y dydd heddiw? Hawdd iawn fyddai gofyn nifer tfawr o gwestiynau ar y mater hwn na chyffyrddir â hwynt-yn wir, methwn â gweled sut y gellid ymdrin â hwynt chwaith—yn niwedd y llyfr presennol. CTedwn yn gydwybodol fod galw am ail-ystyriaeth o gynnwys y rhan hon o gyfrol sydd yn wych eithriadol; ond nid ydym yn barod i fyned mor bell ag awgrymu nad oes posibilrwydd i feddyliwr o allu'r Dr. Turner ddarganfod rhywbeth, yn ei gefndir cyfoethog, a gyfiawnha ym- ddangosiad cytfrol ychwanegol yn y dyfodol yn ymwneud yn fwy boddhaol a'r athrawiaethau Cristnogol o Ymgnawdoliad ac Iawn. Caerdydd. PHILIP J. Jones. ON PRAYER: Spiritual Instructions on the various states of prayer accord- ing to the doctrine of Bossuet, bishop oj Meaux, by ¤can Pierre de Cassaude, S.J. Translated by Algar Thorold. 286 pp. 1931. Burns, Oates and Washbourne Ltd. Price 6/ ABANDONMENT TO DIVINE PROVIDENCE by the Rev. J. P. Cassaude, S.J. Edited by the Rev. J. Ramiire, S.J. Second English Edition. The Catholic Records Press. 377 pp. 1921. Un o Jesuitiaid enwog y ddeunawtfed ganrif ydoedd y Tad de Cassaude. Fe'i ganed yn Toulouse yn 1675, ac yno y bu farw yn 1751. Bu am dymor yn athro yn y clasuron, ac wedi hynny yn athro mewn Gramadeg, Anianeg, a Rhesymeg hyd 1714, pan ydoedd yn 39 mlwydd oed. Pregethwr a chyffeswr a fu o hynny hyd 1741 pan ibenodwyd ef yn gyfarwyddwr myfyrwyr diwinyddol y Jesuitiaid yn Toulouse. Yr unig lyfr a .gyhoeddodd yn ystod ei oes ydoedd y llyfr sydd wedi ymddangos yn awr yn Saesneg o dan y teitl On Prayer." Fe gynnwys y Uytfr hwn 27 o ddialogau, y rhan gyntaf yn trafod y wedd ddam- caniaethol i'r pwnc, a'r ail fan y wedd ymarferol yn bennaf. Ni ohyhoedd-