Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Ffydd Moesegwr* PERTHYNAS Moes â Chrefydd yw prif bwnc y ddwy gyfrol gyn- hwysfawr hyn. Dywedwn mai dyna eu prif bwnc oherwydd ni chyfynga'r awdur dysgedig ef ei hun yn hollol i olrhain perth- nasau rhesymegol Moes â Chrefydd. Y mae fel teithiwr dros fynydd-dir; saif o dro i dro i fwrw golwg o gwmpas, geilw ein sylw at lawer golygfa dlos, a rhydd inni ei atgofion a ffrwyth ei fyfyr- dodau wrth syllu ar aml hen blas neu gastell a ddaw i'r golwg yn y pellter. Diddorol iawn yw cyd-deithio ag ef, er inni weith- iau golli golwg ar briffordd yr ymdaith a methu â gweled yn glir i b'le y'n harweinir. Ffurf ymddiddanol y darlithiau cyn- tefig a geir yn y cyfrolau. Ond y mae atgofion a myfyrdodau crwydrol yr athro dysgedig mor werthfawr â dim a ddywaid; eto i'w gwerthfawrogi rhaid cymryd hamdden i wrando arno, a pheidio â bod mewn gormod brys i gyrraedd pen y daith. Oherwydd cyfoeth amrywiol eu cynnwys nid yw'n hawdd adolygu y cyfrolau hyn. Ni allwn ond cyfeirio at rai o agwedd- au'r prif bwnc yr ymdrinir ag ef. i Y mae dau draddodiad moesegol mawr. Cysylltir y naill yn ar- bennig â Phlato ac Aristotel, a'r llall â Kant. Syniad sylfaenol y cyntaf ydyw'r da; syniad sylfaenol yr olaf ydyw'r hyn sy'n iawn. Gofyn y naill beth yw gwir ddiben dyn, beth a wir ddi- walla ei angen ac a rydd fodlonrwydd iddo; gofyn y llall beth yw ei rwymedigaeth—beth a ddylai ef fod, a pha beth a ddylai ei The Faith of a Moralist. By A. E. Taylor. Gifford Lectures delivered in the University of St. Andrews, 1926­8. Two Series. Vol. i. pp. 437; vol. ii. pp. 437. MacmiÜan & Co., London. 3°/- net.