Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diwrnod yn Uwchaled Bum lawer gwaith yn meddwl cael gweled Glan y Gors. Gellid tybied nad oes dim yn y byd haws na hynny, gan fod y ty wedi ei farcio'n eglur ar y map, a hynny bron ar ymyl y ffordd fawr o Gorwen i Fangor. Ond hyd yn ddiweddar nid oeddwn wedi tramwyo'r ffordd honno ond mewn cerbyd cyflym yn perthyn i ryw gyfaill neu gilydd. Teimlo bob amser yn ddiolchgar iawn am y daith, ond cofio ar yr un pryd mai anfoesgarwch yw rhoi awgrymiadau mewn amgylchiadau felly. A phan fo modur- wr wedi dod yn fuddugoliaethus drwy'r troelliadau mynych yn y ffordd rhwng Corwen a Cherrig y Drudion, a gweled yno o'r diwedd ribyn hir syth o ffordd dda o'i flaen, tuedd anorchfygol yr "hen ddyn" ynddo yw gosod ei droed yn rymus ar y pedal cyflymu a dyna chwi ym Mhentre Foelas cyn ichwi gael eich anadl atoch. Y tro diwethaf y digwyddodd hyn imi, rhoes fy nghyfaill caredig halen ar y briw, gan hanner-arafu rhwng y Glasfryn a'r Cernioge, a dywedyd 'rhoswch chwi, mae Glan y Gors yn rhywle ffordd hyn, on'd ydyw?" "Ydyw," meddwn, gan wasgu fy nannedd, ac ychwanegu, ynof fy hun, "a mi ddo'i yma'nunswydd i'w weld, un o'r dyddiau nesaf." Dyna sut y bu imi gymryd Bws Lerpwl o -Fangor i Gerrig y Drudion, a disgyn yno tuag unarddeg o'r gloch y bore. Pentre croesawus ydyw'r Cerrig — >mi gredaf fod yno lawn cynifer o westai ag o dai preifat. Wedi rhoi tro o amgylch yr eglwys (paham y mae ein heglwysi bron bob amser dan glo ?), ac edrych ar yr elusendai a gododd y Barwn Prys o'r Giler yn offrwm diolch am ei lwyddiant, euthum i mewn i'r gwesty sy'n arddel Llew Gwyn y Prysiaid. Er bod yr awr yn anamserol, cefais bryd da wedi ei hulio'n chwaethus. Bwyteais ef, gan ddarllen pennod Owen Edwards ar y Perthi Llwydion a Glan y Gors (yr oeddwn wedi rhoi Tro trwy'r Gogledd yn fy mhoced) -ei darllen, am y ddegfed waith mae'n debyg, mewn edmygedd anobeithiol; pa faint, tybed, o ymarfer ag ysgrifennu a rydd i