Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau YR ANTUR FAWR. Pregethau gan D. Miall Edwards, M.A., Ph.D., D.D. Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Pris 7/6. Antur go fawr oedd cyhoeddi cyfrol o faint a phris y gyfrol hon ar adeg pryd y cwynir cymaint oherwydd diffyg arian, a phryd y gwaria lliaws mawr o'r bobl a .gwynant gymaint ar bethau y tybir bod mwy o flas arnynt nag sydd ar gyfrol o bregethau. Peth anodd iawn, a pheth nad ymddengys yn deg ar ryw gyfrif, yw adolygu llyfr fel hwn. Nid yr un effaith a gaiff pregeth ar feddwl pawb, ac nid yr un teip (a defnyddio igair a ddefnyddir weithiau yn y gyfrol) o bregethu a apelia at bob dyn a'i gilydd. Y mae'n haws adolygu traethawd nag adolygu pregeth, am fod neges pregeth yn fwy amlochrog. At hynny hefyd tylbia'r adolygu radd o honiadaeth yn yr adolygydd. A chryn dipyn o wyleidd-dra ,gan hynny y dymunwn i ysgritfennu ,gair am gyfrol yr Athro dysgedig. Y ffasiwn heddiw yw deohrau neu ddiweddu adolygiad drwy ddywedyd rhywbeth am yr iaith. Digon yw dywedyd bod iaith y llyfr hwn, ar y cyfan, yn lân, yn gref ac yn gyfoet'hog. Nid llenor bach misi yn cael pleser wrth gaboli brawddegau dain (tud. 243) yw'r awdur, ond dyn yn dweud ei feddwl mor syml a dirodres ag y dichon iddo. Tybed, befyd, a oedd angen am y gair dain a ddefnyddir ddwywaiŵ? Nid oes odid un frawddeg aneglur yn yr holl lyfr, ac nid oes yma ddim 61 ymdreohu am gywirdeb. Er hynny y mae yma frychau. Ceir a'i yn lle a'u, ac ei yn lle eu, bedair neu bump o weithiau (tud. ix., 8, 51, 141). Gwelir ffurfiau fel llunnir a darlunnir; ohonynt yn lle ohono (46), bron pob cam (46); hagrwch a hacrwch yn ymyl ei gilydd (61); a oes lawer (69) y geilw ei hun (88); priffordd yn lIe briffordd (146); ŷan elai (239). Y mae'r awdur yn 'hoff o ffurfiau fel ceisia, cyrhaedda, dadleua, dechreua, gwisga, marchoga, meddylia, symuda ac ymafla. Ceir os nad ac os nid yn wastad lle rhoddasai'r puryddion onid. Braidd yn sigledig weithiau yw'r defnydd o bod a jod. Cydolygaf â phopeth a sgrifennodd yr awdur i'r Goleuad dro'n 61 am y gaiir Seicoleg;" eto gwelaf yma eiriau fel harmoni, gôl, bafflo, bowio, meindio, sentiment a bleindiau. Sylwais hefyd ar garn-lladron. Dyma eng- hraifft o beth a ddigwydd fwy nag unwaith Canfyddaf gywirdeb manwl, ddeddf ddiwyro, gysondeb a phrydlondeb dibaid." Ond y peth rhyfeddaf yn y llyfr yw'r ffurf Roglith." Mae hwn yn waeth na Seicoleg Er hyn oll teg yw ailddywedyd ½bod yr iaith yn gref, yn ystwyth ac yn gyf- oethog. Mae'n eglur mai camgymeriad yw dioddefaint ar td. 129 am digofaint," a mwy ar td. 204 am mwyaf." Barnaf fod yma beth tuedd i wneud gormod o ddefnydd o'r briüytihyren. Gwyddys na wneir ond ychydig o ddefnydd ohoni yn y Beibl. Gellir nodi rhai