Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERAROGL CRIST. Cofiant a Phregethau y Parch. William Jones, Treforis. Gan H. Howard, M.A. 312 td. Gwasg y Bala. 1932. 4/ Y mae'n siwr y cytuna pawb fod yn werth rhoi ar gof a chadw bregethau gwr fel hwnnw a adwaenid drwy Gymru fel William Jones, Treforris," er nad yno'n unig y bu'n byw a gweinidogaethu. Oni bai mai pregethwr yd- oedd etf, mentrasem ddywedyd mai cystal â hynny, neu well, a fuasai cael hefyd gramoỳhone record o ran, neu ragor na rhan, o un o'r pregethau hynny fel y traddodid 'hi ganddo ef; ond y mae'n debyg na thybid hynny, ar hyn o bryd o leiaf, yn briodol. Beth sydd yn erbyn record o bregeth mwy nag o gân neu adroddiad, atebed arall; pes ceid heb yn wybod i'r pregethwr, diohon na wrthwynebid y peth. Gresyn, beth ibynnag a ddyweder, na allesid cael rhyw- beth rhagor na'r bregeth ysgrifenedig yr oedd cuddiad cryfder gwr fel William Jones, Treforris," lawn mwy yn ei oslef nag yn ei fater. A'r bobl a fwynhâ'r gyifrol hon fwyaf tfydd y riheiny a'i clyw ef wrth iddynt hwy ddar- llen y pregethau a roddir ynddi. Pedair ar ddeg o bregethau, a thair pennod am y pregethwr ei hun, a geir yn y gyfrol. Nid awn i geisio dywedyd dim am y pregethau: pregethau "William Jones, Treforris," ydynt, naturiol hollol iddo ef, ffrwyth ei feddwl a'i fyfyrdod ar bethau Duw, ac nid gwaith neb arall. A gwnaeth yntau waith mawr gydag amryw ohonynt, onid yn wir gyda'r cwbl. Rhaid eu rhoddi oll bellach yn rhan o'r gair a glybuwyd," ac o'r gair a bregethwyd i fil- oedd lawer yng Nghymru. Syniad Ihapus iawn ydoedd rhoddi, o flaen pob pregeth, nodiad, ac ambell nodiad yn helaethach na'i gilydd, lle y cawn ddarlun o oedfa arbennig a gafodd y pregethwr gyda'r bregeth arbennig honno. Yn wir, yn y nodiadau hyn y mae rhai o bethau mwyaf blasus y gyfrol. Rhennir y Cofiant yn dair pennod gyda theitl braidd yn ffansïol, chwedl rhai, i bob un ohonynt: Cyfodiad Cennad; Hyfrydlais Hedd; Atsein- iau Arhosol. Y mae yma rai pethau na fuasai'r Cofiant ar ei golled o fod heb- ddynt. Digwydd y rhan fwyaf o'r rheiny yn yr ail bennod, td. 53 ymlaen. Nid chwaethus yw'r cytfeiriad at y di-blaid a'r cyffelybu arno i ful heb ymffrost trâs na go<baith epil." Nid Saesneg a siaradai Martin Luther da gweled sylwadau Renan wedi eu troi i'r Gymraeg (td. 103), ond yn Saesneg y dyfynnir Dante (td. 51), ar waethaf y diweddar Daniel Rees a'i gyfieithiad Cymraeg gwych. Eithafol hefyd yw dywedyd Hyd y gwelwn ni, peidio a (â, yn gywir) chymryd plaid yw'r pechod yn erbyn yr Ysbryd Glân (td. 51). Yn anffodus, ceir aml sylw a thanes yn yr ail bennod lle'r â gwrthrych y Cofiant o'r golwg ac y gwthir ger ein bron syniadau'r cofiannydd a pheth o'i bunan-gofiant ef. Er i rai ohonom gytuno'n llwyr â llawer o sylwadau Mr. Howard, teimlwn rywsut nad oedd angen cyhoeddi'r daliadau hynny yn y cofiant hwn. Cydolyga 1lawer yn ddiau â'r hyn a draethir ar bregethu teith- iol a gweinidogaeth sefydlog (td. 68), er y carem wybod beth a ddywaid rhai o frodyr craffaf y De am y sylw mai gweinidogaeth deithiol ac anwy- byddu'r elfen Seisnig a gollodd i Fethodistiaeth rannau fel Bro Morgannwg,