Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

sir Benfro a sir Fynwy. Tybed mai dyna'r unig esboniad? Eto llusgo pethau amherthnasol i mewn yw rhoddi sylwadau o'r fath yn y gyfrol hon. A pham y rhoddwyd y teitl Ftfrangeg L'envoi uwchben y dyfyniadau sydd ar y ddalen olai? Pa ddisgwyl sydd i bob Cymro wybod mai "Y Gennad a feddylir? Nid oes mwy o frychau ar y wisg nag a geir mewn cyfrolau cyffelyb. Gadawn y pregethau heb fanylu ar yr iaith na'r orgraff yno. Meflau anochel- adwy yw rhai gwallau, oblegid gwaith anodd yw golygu pregethau brawd arall, ond y mae yn y Cofiant amryw bethau y dylesid eu hosgoi, er gwybod ohonom mor hawdd yw iddynt lithro i mewn yn ddiarwybod i awdu. a chyhoeddwr. Dyna "annrhefn" lle dylasid sgrifennu "anhrefn"; yn wir bydd yn rhaid i rywun yn fuan gasglu rhestr o'r ffurfiau anghywir hyn a gosod pawb ohonom ar ein gwyliadwriaeth rhagddynt. Un o'r rheiny yw rh yn lle hr mewn gair ffel hwn ac eraill. Gwall go ddrwg yw Lassaire Faire am Laisser faire (neu Laissez faire) ar td. 50. Credwn y gallesid cael gwell gair na "cwsgyffernu" am y Saesneg hyfnotise (td. 59). Yn Nhreforris a welir drwy'r Cofiant, ond Treforis sydd ar yr wyneb-ddalen. Pa ½bryd y dysg pawb nad oes y fath 'beth â Phrif- ysgol Caerdydd," ac mai un o golegau Prifysgol Cymru sydd yn y ddinas honno (onid oes yno ddau goleg belladh, os yw'r Adran Feddygol i fod ar wahân i bob adran arall)? Wedi dywedyd hyn oll, diolchwn o galon i'r awdur am gasglu defnydd- iau'r gytfrol a'u cyhoeddi dan deitl mor hapus ac mor deilwng o wr a ddygai ryw awyrgylch hyfryd i wasanaeth crefyddol. A diolchwn i Wasg y Bala am lyfr mor ddestlus ei ffurf ac mor hwylus ei faint. D.F.R. CANU RHYDD CYNNAR. Casglwyd a golygwyd gan T. H. ParryWüliams, M.A., B.Litt., Ph.D. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1932. [i]— iii-cviii, I—466 td. Pris 10/6. Fel y dywed y Golygydd yn ei ragair, yr oedd yn hen bryd cael rhyw íath o gasgliad gweddol lawn o ganu rhydd cynnar Cymru, rhyw gwplâd ar y gwaith a gychwynnodd Cymdeithas Llên Cymru (I900—5), a Hopcyn a Chadrawd' yn Hen Gwndidau (1900). Cyhoeddodd Gwasg y Brifysgol eisoes adysgrifau gwerthfawr y Golygydd o Garolau Richard White a Llaw- ysgrif Richard Morris o Gerddi, ac yn naturiol ni chynhwysodd yn ei lyfr diwethaf igarolau White na'r "carolau gwirod y rhoed y rhai cynharaf ohon- ynt, yn,glhyd ag ymdriniaeth drylwyr arnynt, yn y rhagymadrodd i'r ail gyfrol. Ni cheir ychwaith gerddi rhydd yr Hen Gwndidau na rhai cerddi meithion megis anterliwtiau, Teithiau Siôn Mawndfil," Troelus a Chressyd," naill ai am eu bod yn rhy hir neu am eu bod wedi cael neu ar gael eu cyhoeddi, ond rhoes y Golygydd fel Ychwanegiadau Hanes y Trwstan (506 11.), Breuddwyd Rhisiart Fychan (560 11.), a'r Ymddiddan rhwng yr Wtreswr a'r Dylluan (420 11.). Ar wahân i'r cyfansoddiadau hirion, tfelly, a'r penillion telyn y ceir casgliad newydd öhonynit cyn hir (a gorau po gyntaf) gan yr Athro, y