Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HYWEL HARRIS Gan Cynan. Gwrecsam Hughes a'i Fab. 2/6. Yn ddiamau fe ddarllenir mwy ar y ddrama nodedig hon nag ar unrhyw ddrama Gymraeg a ymddangosodd hyd yn hyn, a hynny am amryw resymau. Ei harwr yw Hywel Harris, tad ac enaid y Diwygiad yng Nghymru, ac fe'i portreadir fel un tra gwahanol i syniad cyffredin y mwyafrif amdano. Nid arwr y ddrama, yn unig, sy'n ennyn diddordeb mor gyffredinol, ond dull di- hatfal yr awdur o drin ei hanes. Trwy ddefnyddio hawl y dramodydd i drefnu, neu i baentio ei bictiwr ei hun gyda'r defnyddiau oedd wrth law, llwyddodd i lunio drama ddiddorol, sydd ar yr un pryd yn ddehongliad cywir o'r cyfnod ac yn bortread byw o'r cymeriadau. Anturiaeth go fawr oedd gosod cymer- iadau a chymaint 0 "aTall-wladoldeb" o'u cwmpas mewn drama, ond trwy fedr a chelfyddyd cyfiawnhawyd beiddgarwch yr ymgais. Cymwynas fawr ydyw dangos bod eneidiau mawr y Diwygiad yn ddynol ac yn ddiddorol. 0 ran saernïaeth mae'r holl cymeriadau yn gryfion, hyd yn oed y cymer- iadau lleiaf ymysg adran y preisgang; a theimlwn yn ofidus wrth eu gadael yn Act I. na ddown ar eu traws yn ddiweddarach yn y ddrama. Cawn bortread ,gwych iawn o gymeriad Williams Pantycelyn, fel dyn craff, a min gwatwareg ar ei dafod. Yn ystod y ddrama gwelwn fod ei eiriau, ei syniadau a'i weithredoedd yn mynegu'r nodweddion arbennig a berthynai iddo. Gwaith crefftwr medrus yw cymeriad Madam Gruffydd; cynrychiolydd yr hen ddiwyll- iant Cymreig. Un o'r pethau mwyaf effeithiol yn y ddrama yw'r gwrth- gyferbyniad rhwng Williams a Madam Gruffydd. Er bod cymeriad Hywel Harris yn gryf, nid yw'r amlinelliad ohono mor eglur, yn enwedig yn y ddwy act olaf. Yn Act I. a II. Harris yw arwr y ddrama, ond yn Act III. a IV. pan gymer Madam Gruffydd yr awenau i'w llaw, â Harris i'r cefndir, a hyn yn ddiamau sy'n peri inni golli diddordeb ynddo. Ymysg y cymeriadau lleiaf, saif Jimmy Ingram gwas Harris, cymeriad hoffus yn llawn o hiwmor iach, ar ei ben ei hun. Cryfder y ddrama yw llwyddiant yr awdur i bortreadu cymeriadau, a'u cyflwyno yn gelfydd ar gefndir prydferth. O gymryd y cymeriadau fel bodau ar wahân, y maent oll yn gryfion, ond mid cydgyfarfyddiad o gymeriadau cryf- ion sy'n cyfansoddi drama. Rhaid i'r cymeriadau fod yn iswasanaethgar i brif ddigwyddiad y ddrama. Yn y man y disgwyliem y crisis, yn hytrach na gweled yr arwr yn ymdrechu mewn argyfwng, canfyddwn ef wedi ei syfrdanu gan areithiau proffwydol Madam Gruffydd. Er bod y ddrama yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous, ni lwyddwyd i drin y prif ddigwyddiad, sef y cyf- newidiad yn Harris, mewn dull dramatig. Gallwn ddychmygu cynulleidfa yn gwrando Act IV. yn ddigyffro, ac yn methu â dirnad y mawr cyfnewidiad. Dylai pob act hefyd, yn ogystal i'r cymeriadau, fod yn iswasanaethgar i brif ddigwyddiad y ddrama. Arddangosiad o'r cymeriadau yn fwyaf yw Act I., II., cyflwyno'r cymeriadau i sylw'r gynulleidfa. Teimlwn fod gagen- dor mawr rhwng Act I., II. ac Act III., IV. Mae'r sefylMa yn hollol wahanol, a gwelwn mai yn nechrau Act III. y mae'r ddrama'n cychwyn cyn belled ag y mae'r prif ddigwyddiad yn mynd. Onid gormod o dreth ar y gynulleidfa yw gofyn iddi ail afael yn y stori ar 61 digwyddiadau byw a chyffrous Act. I., II.?