Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn Hywel Harris mae Cynan wedi arloesi'r ffordd i'r ddrama yng >í ghymru. Bellach sylweddolwn fod defnyddiau cymwys i lunio drama effeith- iol yn hanes gorffennol ein cenedl, a hyd yn hyn Hywel Harris yw cyfraniad mwyaf teilwng a gwerthfawr i'r ddrama Gymraeg. BECHGYN Y COLEGA 'MA, a MODRYB MARTHA. Gan D. R. Jones, B.A., Lerpwl. Lerpwl: Gwasg y Brython. Pan gyfyd y llen yn Bechgyn y Colega 'Ma," gwelir Robert ac Ann Jones, yn disgwyl Hywel eu ma/b adref o'r coleg. Y mae'r fam yn bryderus, yn ofni y bydd cyfnewidiad mawr ynddo ar 61 ennill ei lythrennau, ond deil Robert i ddweud yn bendant mai yr un fydd Hywel eto. Tra disgwyliant amdano, syrth Robert i gysgu ac yn ei freuddwyd gwel amheuon Ann yn troi'n ffeith- iau. Er ei syndod newidiodd Hywel yn llwyr; nid oes ganddo barch i'w dad, ac anwybydda ef ym mhopeth. Pan ddeffry o'i freuddwyd, cyrhaedda Hywel, ac er llawenydd iddo, ac yn gwbl groes i'w freuddwyd, gwêl mai'r un ydyw wedi'r cyfan. Y cymeriad mwyaf byw a diddorol yn y ddrama yw Robert Jones. Cawn bortread gwych o'i ddiniweidrwydd wrth edrych ar ei ymddygiad mewn sefyllfa ddieithr a hollol anghydnaws â'i ysbryd. Yn y fath argyfwng apelia ei unigrwydd atom, nes ennill ein tosturi; a theimlwn ollyngdod mawr ar ddyfodiad Hywel, pan sylweddolwn mai breuddwyd ofer oedd y cyfan. Medrus iawn yw ffordd yr awdur o ddadwneud breuddwyd Robert Jones, gan ein harwain at len effeithiol. Comedi o ddigwyddiadau digrif yw MODRYB MARTHA; hanes troeon trwstan Modryb Martha ar ei hymweliad â Lerpwl. Er bod y pwnc neu'r testun yn un cyffredin, y mae bywiogrwydd y deialog a digrifwch y digwyddiadau yn cadw ein diddordeb o'r dechrau i'r diwedd. Cymeriad a luniwyd yn effeithiol yw Modryb Martha; un yn casáu syniadau ac arferion y ddinas. Er holl ystryw- iau ei nai Jack Edwards, y mae Modryb Martha yn anorchfygol. Pan yw casineb ac amheuaeth Modryb yn cynhyddu, fe yrrir Jack druan i fwy o ben- bleth a dryswch. Mae'n tywyllu bob gafael," medd ef yn anobeithiol. Yn ei benbleth ennill ein cydymdeimlad, a theimlwn tfel yntau ar brydiau yr hoffem gael gwared o'r hen hunllef." Lilian Davies, achos y miri i gyd, sy'n gwastatáu pethau yn y diwedd, a cheir diweddglo heddychlon a hapus. Gwnaeth yr awdur ymdrech deg i beri bod gyfarfyddiad Modryb a Lilian yn edrych yn ddigon rhesymol, ond ni allwn ddychmygu am gyd-ddigwydd- iad o'r fath fel rhywbeth naturiol iawn. Amlygir llawer iawn o fedr a chywreinrwydd yn y ddwy ddrama hyn. Heblaw'r digwyddiadau cyffrous a digrif, ceir ynddynt ddywediadau ffraeth a phert. Dyma hefyd ddramâu hawdd eu Uwytfannu, ac yn sicr fe ddylai cwmnïau fanteisio arnynt. Carrog. W. E. Thomas.