Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE NATURAL AND THE SUPERNATURAL." By John Oman, Cam- bridge at the University Press. 1931. td. i.— xiii. + 506. Pris 18/- net. I Ymddengys i mi bod y llyfr hwn yn un o'r llyfrau pwysicaf a ymddangos- odd yn ddiweddar ar faes Athroniaeth Crefydd a Diwinyddiaeth. Nid gwaith hawdd, mewn adolygiad arno, fydd gwneud tegwch â'i safbwynt, nac â phrif rediad ei gynnwys; ac ni cheisiaf wneuthur ond ychydig yn y ffordd o'i feirniadu. O ran ei ddiwyg allanol y mae'r gwaith yn gyfrol fawr a hardd, mewn rhwymiad cryf a ddeil ei darllen laweroedd o weithiau heb golli ei siâp na'i graen. Y mae'r awdur, y Prifathro Dr. John Oman, Athro Athroniaeth Crefydd ac Athrawiaeth Crefydd yng Ngholeg y Presbyteriaid, Weatminster, Caergrawnt, yn hysbys i liaws o weinidogion yng Nghymru. Ef ydyw awdur Vision and Authority (1902); The Problem of Faith and Freedom in the last two Centuries (1906); a Grace and Personality (1917). Ceir cnewyllyn peth o'r ymdriniaeth a geir yn Y Naturiol a'r Goruwchnaturiol" mewn erthygl o'i eiddo ar Gylch Crefydd yn Science, Religion and Reality,—cyfrol o draeth- odau ar faterion perthynol i Wyddoniaeth a Chrefydd a olygwyd gan Dr. Joseph Needham (1925). Bydd y sawl sydd yn gynefin â'r llyfrau hyn, yn falch o gael goleuni pellach ar lawer o egwyddorion a orwedd o dan ei ymdriniaeth ar wahanol faterion ynddynt. Dywaid Oman (td. 98) Ymgais ydyw i osod sylfaen i Ddiwinyddiaeth trwy ystyried ei dull (method) a'i phroblemau." Yn ihyn o beth y mae'r llyfr yn debyg i waith Kant. Yr hyn a wnaeth Kant i Athroniaeth, dyna gais Oman, yntau, ei wneud i Ddiwinyddiaeth, — ystyried y pethau syltfaenol a or- wedd o dan bosibilrwydd a thwf profiad crefyddol, cyn codi na cheisio ateb rhyw gwestiynau neilltuol yn ei gylch. I Oman un o'r pethau sylfaenol hyn ydyw cwestiwn safbwynt, a dull (method). Mewn Diwinyddiaeth, fel ystyriaeth o bethau yng ngolau Duw, y pwnc-yw, — ym mh'le a sut y mae dyn i sefyll, a pha fodd y mae i fynd ati neu o gwmpas i ymofyn? Y mae profiadau bywyd i gyd yn brofiadau neilltuol i feddyliau unigol. Crynhoir hwy o gwmpas rhyw un canolbwynt. Yn y pen draw hunan rhywun ydyw hwnnw (td. 11o). Beth bynnag y bo a wnelo'r meddwl ag ef-boed wrthrych ym myd natur neu ffeith- iau ym myd gras, nid oes modd delio â hwy ond tfel y meddant ystyr i feddwl. Nid ydynt oblegid hynny wedi eu cau o'r tu mewn i'r meddwl. Nid oes dim y gwyddom amdano yn ei gyflwyno ei hun inni fel dim amgen na'n gwybod ni: honna fod iddo fodolaeth sylweddol cwbl annibynnol ar ein gwybod" (td. no). Er hynny rhaid yw edrych ar bopeth oddi ar safbwynt profiad tfel act o wybod. n Un peth o bwys mewn profiad ydyw ein diddordeb — aef ein ffordd o sylwi ar wrthrydhau ein byd, a'n ffordd o'u gweld yn glir ac o fynd o'u cwmpas i ymofyn ymhellach yn eu cylch. Nodwedd diddordeb ydyw bod ein meddwl yn ei grynhoi ei hun ar ryw un peth ym maes eang, ac i ryw raddau di-derfynau, profiad,-maes heb unrhyw landmarks arbennig ynddo. Gwneir y peth hwn yn