Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Rwsia'n Troi Tua'r Gorllewin I Y mae gan y Ffrancwr air awgrymiadol iawn am fantolen U bilan: "cyfri'r flwyddyn" a ddywedai Cymro gwlad am y peth. Gwariwyd llawer o ynni, a dangoswyd llawer o athrylith, wrth geisio gwneuthur le bilan y flwyddyn 1934, cyfri'r flwyddyn honno. Ac un peth sy'n hollol eglur i bawb yw mai blwyddyn o drychinebau a fu hi. Yn Chwefrol, 1934, brawychwyd byd cyfan gan y newydd am fwrdro Sosialiaid yn heolydd Vienna fel pe buasent anifeiliaid mewn lladd-dy, a thrachefn yng Ngorffennaf gan yr hanes am lofruddio mewn gwaed oer Dr. Dollfuss, Canghellor Awstria. Ar Fehefin 30 drwy orchymyn Herr Hitler llofruddiwyd dros 70 o'i gydweithwyr amlycaf ef ei hun yn yr Almaen. Ar Hyd- ref 9 saethwyd y brenin Alexander o Yugoslavia ymhen ychydig funudau wedi iddo lanio yn Ffrainc ar ei ffordd o'i wlad ei hun i Baris. A'r un pryd, gan yr un llofrudd, saethwyd hefyd M. Barthou, Ysgrifennydd Tramor Ffrainc, a eisteddai yn y modur wrth ochr y brenin Alexander. Yn Ysbaen, drachefn, cronicla'r hanesydd, yn ei gofnodion am y fl. 1934, rai gweithredoedd hagr yn yr ymdrechion a wnaethpwyd i beri i fysedd cloc y Chwyl- droad yno sefyll, onid yn wir droi'n ô1. Cyflawnwyd gweith- redoedd mwy anfad fyth yng nghorsydd heintus y Chaco, fel rhan o'r rhyfel di-ildio rhwng Paraguay a Bolivia, yn Neheudir America. Ond er hyn oll, nid yw'n debygol y nodir mewn hanes yr un o'r digwyddiadau hyn, nac eraill cyffelyb iddynt, fel prif ddig-