Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"Gwneud Syms" Efallai nad drwg i gyd ydoedd y drafodaeth a fu ym Mhwyllgor Addysg Sir Gaernarfon y dydd o'r blaen ar weithio SYMS. Y mae'n wir bod i drafodaeth o'r fath ei pheryglon. Un o'r rheini ydyw taflu ysgolion oddi ar eu hechel, dychryn athrawon a pheri iddynt adael y llwybrau newydd a dorasant; a'u troi yn ôl i'r hen rigolau. Perygl arall ydyw eu denu i'w hamddiffyn eu hunain, ac iddynt hwythau yn eu tro roddi'r bai ar rywun arall. Ond o gymryd yn ganiataol nad ydyw hynny'n debyg o ddigwydd ymhob rhan o sir Gaernarfon, gellir manteisio ar y drafodaeth i wyntyllio tipyn ar wir le rhifyddiaeth yn ein hysgolion elfennol. I Beth ydyw hanes syms ? Efallai y bydd yn syn gan rywrai glywed bod iddynt y fath beth â hanes. Ond dyna'r gwir, a hanes digon diddorol ydyw. I'w olrhain, rhaid mynd yn ôl, ymhellach nag 1870. Caued y darllenydd ei lygad ar ei blwyf a'i bentref am foment a dychmyged am drefi mawr Lancashire ac Yorkshire yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Siawns na chaiff olwg arnynt yn eu hacrwch; simddeiau pygddu eu ffatrïoedd, eu strydoedd sets culion, eu tai cefn-gefn, eu tlodi cethin, a'u plant troednoeth goesnoeth. Ceir cip ar eu tebyg pan eler yn y tren drwy Stock- port neu Runcorn. Ac nid dyna'r gwaethaf. Yn y trefi mwyaf ceid aceri o slymiau, nad oes gennym brin syniad am eu tlodi, lIe pentyrrid teuluoedd i gesail ystryd, o'r golwg, i fangre a lys- enwid Court." Yn yr holl drefi hyn godwyd yn y ganrif ddi- wethaf ysgolion mawr ar batrwm bricsiod mlisia, a chasglwyd iddynt fwyafrif mawr plant eu cylch. Ai lleiafrif bach i ysgol- ion preifat, ysgolion bychain a chartrefol, a gedwid fel rheol gan ferched a oedd yn gyntaf a phennaf peth yn "bropor." Ond am "ysgolion y bobl dylid sgrifennu mawr mewn llythren- nau breision wrth sôn amdanynt. Yr oedd rhif y plant ar eu llyfrau i'w gyfrif wrth y cannoedd, a chyfrifid y rhif yn eu gwa-