Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Seiat Ddoe a Heddiw I Y Seiat yw cyfarfod mwyaf nodweddiadol ein Cyfundeb, ac ohoni hi y tarddodd ef. Er iddynt ddal eu cysylltiad â'r Eglwys Sefydledig, teimlodd y Tadau a'r rhai a ddaeth dan ddylanwad y pwerau mawr, eu hangen am gyfarfod arbennig i gyd-ymddiddan a'i gilydd am bethau mwyaf mewnol eu crefydd. Nid gormod- iaeth yw'r hyn a ddywaid Daniel Owen yn Y Dreflan: Pe gallai rhywun ddweud beth ydyw cynnwys y ddau air bach 'Cadw Seiat' yn eu cysylltiad â Methodistiaeth Cymru, byddai wedi dweud, mi gredaf, y naill hanner o hanes gwirioneddol y Cyf- undeb." Yr oedd i brofiad le amlwg iawn yn y Diwygiad. Fe'n dysgir bod y pwyslais a osodid arno yn beth newydd yn yr oes honno. Heddiw y mae'r profiad crefyddol yn cael cryn sylw. Ers blyn- yddoedd bellach, sonnir llawer am Eneideg Crefydd, ac astudir y crefyddau yng ngolau'r profiad a gynhyrchant. Nid oes gan Grist- nogaeth ddim i'w golli, eithr yn hytrach llawer i'w ennill, o'r sylw cynyddol a delir i ffeithiau profiad. Yn wir dyma ydyw'r Testament Newydd-cofnod o.brofiad y Cristnogion bore. Ac ail-ddarganfod gwerth a gogoniant y profiad gogoneddus hwnnw a wnaeth y Diwygiad Methodistaidd. Ceir yn llenyddiaeth y mudiad ei nodwedd a'i gynnwys, sef ymwybyddiaeth o bechod, edifeirwch o'i blegid, ymdeimlad o anallu o du'r pechadur ar- gyhoeddedig i'w waredu ei hun, profiad melys o faddeuant, a mwynhad o gariad Duw drwy'r cymod, awydd llosgawl am achub eraill, ac ymgyflwyniad eiddgar i'r gwaith, gan bwyso ar yr ar- weiniad a'r nerth dwyfol, ac i goroni'r cwbl, y llawenydd budd- ugoliaethus a dreiddiai drwy'r bywyd i gyd. Hwn yw'r profiad a roddodd gychwyn i'r Seiat, ac y mae angen amdani o hyd i'w ddiogelu a'i ddyfnhau. Gwirionedd canolog y Diwygiad oedd perthynas enaid y dyn unigol â Duw. Yn ôl y syniad a ffynnai yn y ddeunawfed ganrif, Duw pell, absennol, oedd y Goruchaf, wedi ymneilltuo o'i fyd ar