Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Datblygiad Ysbrydol Dyn Cenir yn fynych am daith yr anialwch fel y'i gwelir o Fryniau Caersalem." Ond mae bywyd yn ddrama mor angerddol ac mor gynhwysfawr fel nad ydyw'n bosibl i ddyn ei syweddoli ond o saf- bwynt symudol ei yrfa. Oherwydd yn ei brofiadau tra fo ar ei daith y gwêl ef orau gyfeiriad ac ystyr ei lwybr llafurus. Prin y mae dim mwy arwyddocaol ym mywyd dyn na'r gyfres deffroadau a ddigwydd yn ei ymwybyddiaeth. Gyda phob gris yr esgyn ef iddo ar ei lwybr cynhyrchir rhyw gynneddf newydd gyfaddas yn ei natur. Eto er holl ddylanwad ei yrfa ar y per- erin, gellir tybied mai ym mywyd dyn yn hytrach nac yn ei fyd oddi amgylch y mae dirgelwch y ddrama fawr; ac o bob ffaith a welir yma y fwyaf trawiadol ydyw hyn, fod bywyd wrth gyn- yddu yn ehangu ei fyd. Ond cyn y medrwn ystyried dull yr enaid o ymlwybro ac ym- aflyd yn ei deyrnas, tâl inni edrych ar un agwedd neilltuol ar fywyd dyn. Nid digon ydyw iddo adnabod ei fyd a llwyddo i gyfateb i'w amgylchoedd. Y mae mwy o lawer na hynny mewn bywyd. Oherwydd nid yn ei berthynas â'i lwybr allanol yn unig nac yn bennaf y mae dirgelwch llwyddiant dyn ar ei daith. Ad- lewyrchiad ydyw bywyd o'r meddwl creadigol sydd tu ôl iddo, ac i ddyn, y mae'r berthynas â Duw yn llawer nes na'i sylweddol- iad ef o hynny. Ymhell cyn iddo ef ddarganfod Duw, gwyr yn nyfnder ei natur ei fod wedi ei osod ar ei lwybr ac wedi ei gych- wyn ar ei yrfa gan Allu Goruchel. Ac yn hwyr neu hwyrach daw i bob un ohonom ryw ymwybyddiaeth o nwyf ysbrydol yn gweithio trwom yn ddiball, presenoldeb anweledig sydd yn gwylied ein cyflwr, yn cydredeg â'n gyrfa, yn cyflenwi ein natur, ac yn gyf- rannog o'n tynged. Pan ddaw dyn i sylweddoli'r haen ysbrydol sy'n rhedeg drwy ei fywyd ar ei hyd, gwêl ystyr newydd yn ei greadigaeth. Nid ydyw mwyach yn ystyried ei gread fel act der- fynol a fu rhywbryd yn y gorffennol pell, ond yn hytrach fel proses sydd yn gweithredu'n barhaus tra fyddo ef byw, proses o adeni,