Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pregethu'r Tadau Methodistaidd I A yw nerth a dylanwad y pulpud yng Nghymru yn dirywio ? Yr ateb gorau, a'r unig ateb yn ddiamau, i'r cwestiwn yna ydyw y mae'n dibynnu'n union pwy sydd ynddo fo. Ffolineb yw tybio bod pregethwyr Cymru i gyd gant, a chant a hanner, a rhagor o flynyddoedd yn ôl, yn bregethwyr mawr bob un. Tuedd dyn wrth ddarllen ambell gofiant yw llithro i feddwl bod pob un gynt yn dywysog, a llais fel utgorn ganddo. Y gwir yw fod llawer o rai truenus yn eu plith. Yn siwr, nid oes dim rhai cyn saled heddiw â'r rhai salaf ohonynt hwy. Cyfeiria'r Dr. L. Edwards at y crach-bregethwyr," chwedl yntau, yn nyddiau John Elias. Dynion di-asgwrn-cefn, cul eu barn, dwl iawn eu hamgyffrediad; dynion, rai ohonynt, a oedd yn byw i ddim bron ond cynffonna, a ffalsio i John Elias, a chario pob stori iddo. Nid cewri'n unig a fu ym mhulpud y Methodistiaid yng Nghymru'r deucan mlyn- edd diwethaf. Erbyn hyn newidiodd pethau er gwell mewn am- ryw gyfeiriadau. Yn ein plith ni heddiw ceir mwy o ryddid barn ar faterion crefyddol nag a fu, a mwy o ryddid i'w thraethu. Yr ydym yn llai ceidwadol, ac yn llai sentimental yn aml. Col- eddir syniadau ehangach yn ein mysg am ystyr a neges crefydd. Ac nid oes cymaint bri ar ragrith, a ffalster, a chynffonna ymhlith Gweinidogion yr Efengyl. Nid daioni digymysg mo'r Diwyg- iad Methodistaidd. Pan dreiodd y llanw hwnnw, gadawyd llawer o ysglodion digon diwerth ar ei ôl. Eto i gyd cydnebydd pawb fod pethau gorau Cymru heddiw wedi deillio o'r Diwygiad hwnnw. Symir hynny i fyny yn wych gan Mr. R. T. Jenkins. Daeth cenedl fud yn llafar, cenedl ddi- feddwl yn ddifrifol. Cenedl ysgafn, fe'i hysgytiwyd hi i wael- odion ei natur. Agorwyd ei llygad, a'i chlust, a'i chalon, i ddal ar y pethau tragwyddol. A throes y golud hwnnw'n waddol i'w bywyd i gyd. Ond y pregethu, dyma ogoniant y Diwygiad. Coronwyd gweinidogaeth y Tadau â llwyddiant digyffelyb. Buont yn fodd- ion i droi eneidiau lawer i gyfiawnder, i ddifrifoli gwlad, i'w sef- ydlogi mewn cyfnod enbyd. Barn Lecky, yr hanesydd, am y