Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CANIADAU GWILI. Wrecsam Hughes a'i Fab. 1934. 143 td. Dyma gyfrol o'r diwedd o law y mwyaf tawedog, efallai, o'n prifeirdd. Yn ystod ei ddistawrwydd hir, fodd bynnag, casglodd Gwili fwy o ddefnydd- iau na'r gofyn. Da ddigon ydoedd hynny, oblegid fe addewir inni gyfrol eto. Yn ei ragair rhydd Gwili awgrym o'r hyn, yn ei dyb ef, yw swydd bardd. Gresyna'r diffyg "nerth a diffuantrwydd sydd yn y canu rhamantus a, chan mwyaf, eisteddfodol, a ddilynodd "Ymadawiad Arthur." Casglwn oddi wrth hyn na chyfrannodd y mudiad hwnnw ddim y gellir ei alw yn fynegiant o fywyd yn ei "ystyr ddyfnaf a'i agweddau difrifol" i'n llenyddiaeth. Er cymaint ein hedmygedd o grefft a phurdeb celfyddydol y mudiad rhamantaidd, ni allwn beidio â chydymdeimlo â'r gwyn hon o eiddo Gwili. Yn y ganrif ddiwethaf bu cymysgu galarus ac affwysol ar safonau moes a chelfyddyd, ac ymdrech am anadl einioes oedd yr ymryddhau a wnaeth barddoniaeth oddi wrth y moesoli dieneiniad a wisgai lifrai celfyddyd. Yn yr adwaith hwn, fodd bynnag, fe gollwyd golwg ar swydd celfyddyd fel mynegydd profiadau dyfnaf bywyd. Perthynas dyn â'i fyd ac â'i dynged yw priod ddefnyddiau eelfyddyd ac ni cheir y diffuantrwydd yr erfyn Gwili amdano nes delio o'r bardd â chynnwys cyffredinol profiad pob dyn byw. Cred Gwili yw bod yn rhaid wrth "enaid mawr i greu barddoniaeth fawr," ac ni ellir mawredd enaid ond o ddidwylledd yn null dyn o drin a mynegi cynnwys ei fyd a'i brof- iad. Dwg y gwir fardd bersonau 0 gyfnodau pell a dieithr eu gwareiddiad i'n hymwybod. Ni chymer fawr amser i'r dieithrwch wisgo ymaith, ac fe'n cawn ein hunain yng ngwydd troeon cynefin y profiad dynol. Nid dieithrach hen frenhinoedd cynnar Shakespeare na'i Rufeiniaid. Nid ydynt hwythau chwaith yn ddieithrach na'i frenhinoedd Seisnig. Cred Gwili nad yw'n gwbl amhosibl i Gymru "cyn tranc y Gymraeg gynhyrchu un o feirdd mawr y byd. Ni oddef ef fodd bynnag y sentimentaliaeth a eilw Dwm o'r Nant yn Shakespeare Cymru. Ond yn awr at y gyfrol. Trwy osod ei ganeuon yn nhrefn eu cyfansoddi gwna'r awdur gymwynas â'ü ddarllenydd. Cyfansoddwyd holl ganeuon y llyfr rhwng 1894 a 1906. Mwy diddorol na dim yw gweld twf ei weledigaeth a chynnydd ei fedr. Dyma fardd a brydyddai drwy gydol y deffro diamheuol a fu ar farddoniaeth Cymru ddechrau'r ganrif hon, ond goleuodd ei gannwyll ei hun. Ac er na wadai, ni gredwn, ei ddyled i'w gyfnod, a hyd yn oed i'r beirdd y gesyd ei hun gyferbyn â hwy, eto llwyddodd i feddiannu ei enaid a diogelu diffuantrwydd ei weledigaeth. Y mae yn y gyfrol nifer fawr o gan- euon byr a phum cân hir. Dengys y caneuon byr sicrwydd ei gyffyrddiad telynegol. Ni ddisgyn yn unman i'r camwedd hwnnw y cwynodd Goethe