Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O'r cerddi hir, fodd bynnag, yng nghân olaf y gyfrol yr ymhyfrydwn fwyaf. Yn y gân hon y mae ei law dyneraf a'i gelfyddyd geinaf, ac nid oes dim yn y llyfr yn hollol yr un ansawdd â'r "Gân i Fair." Efallai mai ynddi hi y cawn ragflas ei waith addfetaf. Wedi'r cyfan ni honnai Gwili ei hun, mi dybiaf, ei fod ar ei orau yn y gyfrol hon. Brysied yr ail gyfrol, oblegid y mae digon yn hon i'n gwneud yn awyddus i ddarllen gweddill barddoniaeth Gwili. Ebbw Vale. R. MEIRION ROBERTS. JESUS THE AGITATOR. By J. H. Howard, M.A. Foreword hy the Rt. Hon. George\ Lansbury, M.P. The Princifalìty Press, Wrexham (Hughes & Son). 1934. xii. + 230 pp. 4/ Cred yr awdur hwn fod crefydd i amgylchu bywyd i gyd oll a'i dreiddio drwyddo draw. Bu'n weinidog eglwysi mewn lleoedd poblog-Cwmafon, Bir- kenhead, Colwyn Bay ac y mae'n awr yn gwasnaethu Eglwys Saesneg Catherine Street, Lerpwl. Diddorol yw atgofio mai gweinidogion cyntaf yr eglwys hon oedd David Charles Davies, William Howells, a Thomas Charles Edwards. Galwyd y tri oddi yno i fod yn Brifathrawon-y ddau gyntaf i Athrofa Trefeca, a'r trydydd i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Ym mhob man lle y bu Dr. Howard (oblegid erbyn hyn y mae i'w longyfarch ar gael y radd o D.D. o Brifysgol barchus iawn Kansas, U.D.A.), mynnodd ei reddf gymdeithasol a'i sêl ddiwygiadol le i weithio ar fyrddau a phwyllgorau am- rywiol. Cafodd ei radd o M.A. gan Brifysgol Lerpwl, am draethawd a olygai ymchwil manwl i weinyddiad elusenau i dlodion yng Nghymru. Mewn dwy gyfrol flaenorol o'i eiddo-" Cristionogaeth a Chymdeithas," a "W hien Jesusì" — gwelwyd y ffordd y tramwyai ei feddwl a'i nwyd a dengys teitl y gyfrol newydd nad cywilydd ganddo barhau i'w cherdded. Dywaid yr awdur yn ei ragair mai anerchiadau a draddodwyd 0 bulpud Catharine Street yw cynnwys y llyfr. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng anerch- iad a phregeth? Clywsom ddweud am ambell bregeth ei bod yn fwy o anerch- iad nag o bregeth, ac am ambell anerchiad mai pregeth oedd. Tybygwn, od oes llinell gwahaniaeth, ei bod mor aneglur fel mai hawdd iawn yw ei chroesi heb ei gweld. Ai codi testun o'r Beibl i draethu arno sy'n gwneuthur yr hyn a ddywedir yn bregeth, ac nid yn anerchiad? Yna, y mae pregethau yn y gyfrol hon. Ai diogel a fyddai dweud bod pob pregeth yn anerchiad, er nad yw pob anerchiad yn bregeth? Trewir cyweirnod y llyfr mewn brawddeg sy'n agos i ddechrau'r anerchiad cyntaf "Ym mhen dwy fil o flynyddoedd ar ôl Calfaria, erys Iesu yn Gynhyrfwr ac Aflonyddwr ar bethau fel y maent. Ef yw sialens fawr anochel bywyd." Dug yr awdur ffeithiau bywyd Prydain a'r byd i'w profi wrth egwyddorion dysgeidiaeth ac ysbryd yr Iesu. Tlodi a dioddef, cyfoeth a gwastraff, tai'r bobl, rhyfel-daw'r rhain a llawer eraill o broblemau'r dydd gerbron i'w trafod ganddo. Y mae'n ddiamwys yn ei gondemniad ar gyfundrefn cosb y wlad. The penal motive can only brutalize; vindictiveness is wasteful, and, maybe,