Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CREFYDD A DIWYLLIANT. Call D. Miall Edwards, M.A., Ph.D., D.D. Wrecsam Hughes a'i Fab. 1934. l'ris 6/ Oes yr arbenigwr yw'r oes hon. Yn wir, cymaint yw'r pwyslais ar arbenigrwydd nes ei bod yn berygl i synnwyr yr oes hon beidio â bod yn gyff- redin o gwbl. Clywsom o'r blaen am y dueddiad i anghofio'r goedwig oher- wydd sylwi gormod ar y goeden, ond erbyn hyn mae hyd yn oed y goeden hithau ar ddiflannu o olwg dyn am ei fod yn edrych ar y rhisgl a dim rhagor. Prif ddadl y gyfrol hon yw mai un yw bywyd, o leiaf mewn delfryd,' a'r undod hwnnw o natur sistem. Mae i bob elfen o'r sistem, felly, ei lle priodol, a phob elfen isel yn ddarostyngedig i elfen uwch. Prif elfen y sistem yw crefydd, sydd o hyd yn hawlio awdurdod a gallu cyfannol dros fywyd i gyd" (t. 30). Er hynny, gwelir gwrthdrawiad heddiw rhwng Crefydd a Diwylliant yn ei wahanol arweddau. Dyma un o beryglon ein cyfnod.' Yn wyneb sefyllfa o'r fath, pwysig yw inni geisio sylweddoli gwir natur a therfynau gwyddorau a chelfyddydau ein dydd. Cred yr awdur yw nad oes dim yn- ddynt, o'u hiawn ddeall, sydd o angenrheidrwydd yn anghyson â chrefydd, ac er mwyn dangos hynny nid oes ofn arno blymio i'r dyfnder. Beth bynnag a ddyweder am lwyddiant ei ymgais, ni ellir peidio ag edmygu y gwroldeb a'i harweiniodd i dramwyo bron holl faes gwybodaeth a bywyd mewn un gyfrol. Agorir y ddadl drwy roddi dehongliad hapus o Grefydd a Diwylliant (pen. ii.). Erbyn hyn mae syniadau'r Athro ar grefydd yn gyfarwydd i ddar- llenwyr y TRAETHODYDD, ond dymunaf bwysleisio'r gosodiad bod syniad Otto am Santeiddrwydd bron bod yn gyfystyr â dirgelwch noeth." Rhaid yw addef bod y profiad crefyddol, yn ôl Otto, yn debyg i ymateb naturiol dyn i'r hyn nid adweinir. Y mae dirgelwch bob pryd yn ein denu ac yn ein dych- rynu, yn enwedig pan fyddo'r dirgelwch hwnnw'n gymorth inni neu'n niwed inni. Cofier, hefyd, fod dyn gwareiddiedig yn dueddol iawn, o dan ddylan- wad nwyd, i bersonoli gwrthrych, neu hyd yn oed i greu gwrthrych, er mwyn bodloni rhuthr ei deimladau. Er hynny, gellir amau a yw bodolaeth gwerth- oedd dynol yn profi, 0 angenrheidrwydd, fodolaeth Duw personol. Ar ôl egluro'n fanwl ystyr Diwylliant, a phwysleisio mai "mater o berson- oliaeth yw yn y gwaelod, wyneba'r awdur ar y dasg o ymdrin â diwylliant yn ei wahanol arweddau. Cawn, yn gyntaf, ddwy bennod ar Crefydd a Gwyddoniaeth (pen. iii. a iv.), sydd yn werthfawr ac amserol. Cyfyngir yr ymdriniaeth bron yn llwyr i Ffiseg, a gellir cyfiawnhau hynny, efallai, gan mai delfryd gwyddoniaeth yw ceisio trosi categorïau'r amrywiol wyddorau i g?tegcriau Ffiseg fathemategol. Yn ateb i honiadau'r ^wyddonydd dysg Dr. MiaU Edwards yn gywir ddigon na all y gwyddonydd o'i safbwynt allanol, gyda'i bwyslais ar agwedd fesuradwy pethau yn unig, wrthbrofi realiti prof- iadau mewnol dyn. Ond nid wyf yn siwr bod yr ergyd yn cyrraedd ei hamcan, yn enwedig pan glodforir y ffisegydd am ei bwyslais ar drefn a deddf. Wrth ddarllen y penodau hyn methaf â gweld gwir achos y gwrthryfel rhwng crefydd