Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Dafydd ap Gwilym Nid oes reswm pendant, am a wn i, dros goffáu Dafydd ap Gwilym eleni mwy na rhyw flwyddyn arall, gan na wyddys hyd yma onid y nesaf peth i ddim o'i hanes. Nid oes sicrwydd ym mha le y ganed ef na pha flwyddyn, na pha bryd nac ym mha le y bu farw. Cytunir yn weddol gyffredin erbyn hyn mai tebyg ei fod yn ei flodau rhwng 1340 a 1380. Os gellir derbyn dilysrwydd y pethau a briodolir iddo yn y llawysgrifau nesaf i'w gyfnod, yna ni ellir amau nad oedd ef yn gynefin iawn, 0 leiaf yn ei ieuenctid, â'r wlad o Lanbadarn hyd at afon Ddyfi ac oddi yno cyn belled ag Emlyn, fel y prawf ymchwiliadau a gyhoeddir cyn bo hir, mi obeithiaf. Dangosais fy hun ugain mlynedd yn ôl nad rhaid mynd o ogledd Ceredigion i chwilio am Faesaleg. Erbyn hyn, darganfu un o'm disgyblion ragor o ffeithiau diddorol ar y pen hwn, na ellir ond eu crybwyll yma. Os gellir derbyn marwnad Gruffudd Gryg iddo hefyd, ni all fod un amheuaeth nad yn Ystrad Fiflur y claddwyd ef. Eto, er cyn lleied a wyddys am Ddafydd, ni bu fardd o Gymro erioed cyn enwoced ag ef, nac un yr ysgrifennwyd cymaint am- dano, a hynny mewn pedair iaith o leiaf. Daeth yn enwog yn ei gyfnod ei hun, a phery felly hyd heddiw. Gweodd yr oesau ramant o'i gwmpas, a dywedodd y beirniaid bethau rhyfedd am- dano-ei fod yn gyfarwydd â gwaith Ovid a Petrarca; mai ef oedd y bardd mwyaf yn Ewrop er y peth a elwir y Dadeni, fod Dante wedi bod yn clera gydag ef yng Nghymru, ei fod yn un o sêr bore'r diwygiad Protestant Mewn ysgrif fel hon, ni cheir lIe i sôn am y pethau hyn. Digon fydd dywedyd bod yn y pethau a dadogir arno rai elfennau a ddengys berthynas bell â rhai o ffurfiau llenyddol y Trofaduriaid, peth posibl pan gofier mai tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg y daeth eu dylanwad hwy i Loegr, yn ôl Audiau, gwr a gyfrifir