Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sialens Trydedd Ganrif Methodistiaeth CARREG filltir arbennig ar daith ein Cyfundeb yw 1935, y flwydd- yn fwyaf arbennig a welodd neu a wêl neb ohonom sy'n fyw heddiw. Canys unwaith mewn can mlynedd y daw canmlwydd- iant, megis mai unwaith mewn oes y profa dyn urddas ac antur bod yn un-ar-hugain. Priodol, gan hynny, yw dathlu achlysur o'r fath yn galonnog; ac er, o bosibl, y bydd miri llenyddol ac areithyddol ein blwyddyn gofiadwy yn dipyn o dreth ar amynedd ein "brodyr da o enwadau eraill, gallwn eu hatgofio, yng ngeir- iau tad y mab afradlon wrth y brawd hynaf, â'i synnwyr cyffredin beirniadol, — "Rhaid yw llawenychu a gorfoleddu,gan adael allan ddiwedd yr adnod, bid sicr! §1 Sefyll a wnawn eleni, ac edrych ôl a blaen. O graffu'n ôl dros ysgwyddau dau can mlynedd, nac anghofiwn edrych ymlaen hefyd; canys difudd yw areithio yn hwyliog ar orchestion y tadau Methodistaidd, ac ysgrifennu yn ysgolheigaidd-fanwl ar ddech- reuadau ein Heglwys, oni thrown ein hwynebau i'r dyfodol gyda balchder gweddaidd a ffydd adnewyddol. Nid yw hanes y creu yn Genesis ond cefndir i weledigaeth y Datguddiad o nef new- ydd a daear newydd, a phabell Duw gyda dynion, yr Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd." Gwerth cydnabyddiaeth â rhamant y gorffennol, i ddyn a theulu ac eglwys, yw symbyliad i "ymestyn at y pethau sydd o'r tu blaen," gan gyrchu at nod a rydd ystyr i'r dechrau a'r tyfu a'r addysgu a fu. Gwyddom ni, Fethodistiaid, ddigon am anian gyffredin ein tadau, yng nghanol eu gwahaniaethau lawer, i deimlo'n gwbl sicr, ped ymgasglent i Sasiynau'r dathlu eleni, yn un cwmwl o dystion amryddawn dros ddwy ganrif, y cytunent yn unfryd, unllef, i ddisgrifio'r "nod" heddiw, yn ugeinfed ganrif Crist- nogaeth, a thrydedd canrif Methodistiaeth Cymru, yng ngeir- iau'r mwyaf o'r tadau eglwysig oll, yn y ganrif gyntaf-"camp