Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dianc Mae hi'n ddiwrnod oer, glawog, ysgythrog heddiw, a'r Rhondda'n edrych yn hyllach nag arfer. Edrych y rhesi di- ddiwedd o dai a'r pyllau glo myglyd yn waeth ar yr adeg yma o'r flwyddyn nag unrhyw adeg. Nid oes deilen las yn unman i daflu dim ffresni ar dai llwyd, undonog, ac nid oes dim haul nac awyr las i wneud i chwi godi eich llygaid at y mynyddoedd. Ac mae'r tai acw i gyd yn llawn o bobl, yn llawn iawn yn awr gan fod dau neu dri o deuluoedd yn byw ym mhob un ohonynt. Wrth edrych allan trwy'r ffenestr ar y cannoedd tai, daw i feddwl dyn fod cannoedd o broblemau byw i'w dadrys ynddynt, a phob un a'i helynt, mawr neu fychan. Ni all neb o'r tu allan ddweud maint y tlodi na maint yr ymdrosi yn y meddwl ar broblem bod (nid problem byw mohoni), gan mai llenni ffenestri fel rheol yw'r pethau olaf i ddangos eithaf tlodi mewn ty. Eto wrth gerdded heolydd y cwm, yn enwedig yn y boreau, pan fo merched allan yn siopa, a'r dynion yn ymdroi o gwmpas ar ddiwrnod tâl y di- waith, ni ellir peidio â sylwi ar dlodi gwisg a llwydni gwedd. Sylwi ar hyn y naill wythnos ar ôl y llall a wnaeth imi feddwl cyn lleied o gysylltiad sydd rhwng llenyddiaeth Gymraeg heddiw â'r bywyd yma. Hyd y gwelaf, ni ddyry symbyliad i neb ysgrifennu storiau na barddoniaeth amdano yn Gymraeg. Mae'r ddrama Cwmglo yn eithriad. Problemau anghyffredin y cyfnod sydd yng Nghwmglo, ac ni ellid cael ond yr anghyffredin mewn drama efallai. Byddai nofel yn fwy cymwys at dawelwch cyffredin y bywyd hwn. Ceir cyfeiriadau haniaethol at ddioddef ac anobaith yng ngweithiau rhai o'r beirdd a elwir yn Anglo-Welsh; ond mae'r farddoniaeth honno mor haniaethol ei natur fel na wyddoch at beth y cyfeirir. Hyd yn oed petai fel arall, nid hawdd yw galw'r farddoniaeth yma'n farddoniaeth Gymraeg. Bûm yn ceisio esbonio i mi fy hun paham nad yw llenyddiaeth Gymraeg heddiw'n ddrych o fywyd fel y mae yn 1935. Cymharwn am funud y cyfnod hwn o ddioddef â chyfnod y Rhyfel. Esgor-